Bowlio llac gan Forgannwg ym mhelawdau clo batiad Swydd Surrey oedd yn bennaf gyfrifol am ganlyniad yr ornest, gyda’r Cymry’n colli o 17 rhediad yn Stadiwm Swalec.
Roedd y ddwy sir yn gyfartal o ystyried y bymtheg pelawd gyntaf, ond roedd nod o 55 oddi ar y bum pelawd olaf yn ormod i Forgannwg.
Y Cyfnod Clatsio
Tacteg gyfarwydd gafodd ei defnyddio gan Forgannwg wrth i’r troellwr ifanc Andrew Salter fowlio’r belawd gyntaf o ben afon Taf yn erbyn batwyr agoriadol Swydd Surrey Jason Roy a batiwr cyffrous De Affrica, Hashim Amla.
Dechrau digon tawel gafodd Salter ac eithrio pedwar heibiad oherwydd cam-faesu gan Jacques Rudolph, yr ymwelwyr yn 8-0 ar ddiwedd y belawd gyntaf.
Pelen wag ddilynodd oddi ar belen gyntaf Graham Wagg o ben Heol y Gadeirlan, wedi’i gwthio drwy’r cyfar gan Amla am bedwar, wedi’i dilyn gan ergyd union yr un fath oddi ar y belen ganlynol – y cyfanswm yn 19-0 ar ddiwedd yr ail belawd.
Un belawd yn unig barodd Salter, wedi’i ddisodli gan y seren Michael Hogan yn y drydedd belawd, a hwnnw’n darganfod ymyl bat Amla oddi ar y belen gyntaf ond yn disgyn yn brin o’r wicedwr Mark Wallace.
Manteisiodd Roy ar anffawd Morgannwg, gan yrru Hogan yn syth i’r ffin wrth i’r ymwelwyr ymestyn eu cyfanswm i 28-0 wedi tair pelawd.
Darren Sammy fowliodd y belawd nesaf o ben Heol y Gadeirlan wrth i Forgannwg barhau i amrywio’r bowlwyr, ond doedd hynny ddim yn ddigon i arafu Amla wrth iddo yrru’r belen gyntaf drwy’r cyfar am bedwar. Ychwanegodd yr ymwelwyr chwe rhediad arall at y cyfanswm i gyrraedd 38-0 erbyn diwedd y belawd.
Newidiodd Wagg i ben afon Taf ar gyfer y bumed pelawd a chanfod ei lein a’i hyd yn erbyn Roy ar unwaith, ond cafodd ei daro’n syth am bedwar gan Amla oddi ar y belen olaf i ymestyn cyfanswm yr ymwelwyr i 45-0 wedi pum pelawd.
Newid pen wnaeth Hogan yn y chweched a chael ei daro am bedwar drwy ochr y goes gan Roy oddi ar y belen gyntaf, ond talodd y pwyth yn ôl wrth ddal ei afael ar y bêl oddi ar yriad syth.
Y dyn ei hun, Kevin Pietersen – neu KP – ddaeth i’r llain a’r dorf yn dechrau cyffroi wrth i Swydd Surrey orffen y cyfnod clatsio ar 49-1.
Jade Dernbach agorodd y bowlio i Swydd Surrey o ben afon Taf a chipio wiced Jacques Rudolph, y batiwr o Dde Affrica yn torri ar gam i’r wicedwr Gary Wilson.
Clatsio oedd bwriad Mark Wallace ar unwaith, gan yrru Dernbach trwy’r cyfar am bedwar i agor y sgorio i Forgannwg cyn i Allenby dorri trwy’r slip i ychwanegu pedwar arall at y cyfanswm – Morgannwg yn 10-1 ar ddiwedd y belawd gyntaf.
Azhar Mahmood, y bowliwr cyflym o Bacistan, fowliodd yr ail belawd ac ildio saith rhediad wrth i’r Cymry gyrraedd 17-1 wedi dwy belawd.
Tarodd Allenby bedwar drwy’r cyfar oddi ar belen ola’r drydedd belawd, wrth i Forgannwg ymestyn eu cyfanswm i 25-1.
Cysondeb oedd tacteg Swydd Surrey wrth i Azhar Mahmood barhau o ben Heol y Gadeirlan a chael ei sgubo’n ddestlus gan Wallace ar ochr y goes am bedwar wrth i Forgannwg gyrraedd 33-1 wedi pedair pelawd.
Tom Curran gipiodd ail wiced Swydd Surrey yn y bumed pelawd, a chanfod ymyl bat Wallace a’r bel yn glanio’n ddiogel yn nwylo Azhar Mahmood – Morgannwg yn 35-2 erbyn diwedd y belawd.
Troi at y troellwr llaw chwith Robin Peterson wnaeth Swydd Surrey yn y chweched pelawd a hwnnw’n ildio naw rhediad, gan olygu bod Morgannwg bump rhediad y tu ôl i’r ymwelwyr ar ddiwedd y cyfnod clatsio.
Y pelawdau canol
Newid tactegau unwaith eto wnaeth Morgannwg ar ddiwedd y cyfnod clatsio, wrth i Dean Cosker gael ei gyflwyno i’r ymosod ac anfon Pietersen (1) i’r cwt gyda’i belen gyntaf, diolch i ddwylo chwim Wallace y tu cefn i’r ffyn – Swydd Surrey yn 50-2.
Ond clatsio ar unwaith wnaeth y batiwr newydd, Gary Wilson, wrth iddo daro Cosker i’r ffin i ymestyn cyfanswm yr ymwelwyr i 54-2 ar ddiwedd y seithfed pelawd.
Pelawd dynn fowliodd Sammy yn yr wythfed, gan ildio tri rhediad yn unig, wrth i Swydd Surrey arafu i gyrraedd 57-2 erbyn diwedd y belawd.
Cadw’r pwysau ar y batwyr wnaeth Cosker yn y nawfed hefyd, wrth i’r troellwr llaw chwith guro’r bat sawl gwaith gyda’r ymwelwyr yn cropian i 63-2 wedi naw pelawd.
Newidiodd Salter i ben Heol y Gadeirlan ar gyfer y degfed a chael ei daro gan Wilson am ddau bedwar y naill ochr i’r wiced oddi ar y ddwy belen gyntaf i lacio’r pwysau ar yr ymwelwyr, oedd wedi cyrraedd 74-2 hanner ffordd trwy’r batiad.
Newid pen wnaeth Sammy a bowlio’r unfed belawd ar ddeg o ben afon Taf.
Ildiodd bedwar oddi ar belen wag cyn i’r ergyd rydd gael ei tharo am bedwar drwy’r ochr agored hefyd cyn i Wagg ollwng Amla yn yr ochr agored, yr ymwelwyr yn 85-2 ar ddiwedd y belawd.
Ond tro Wilson oedd hi i ddychwelyd i’r cwtsh yn y ddeuddegfed, wedi’i ddal gan Salter oddi ar Cosker am 18, a goroesodd y batiwr newydd Kevin O’Brien waedd am goes y flaen y wiced wrth i Swydd Surrey gyrraedd 88-3 erbyn diwedd y belawd.
Y capten Jim Allenby fowliodd y drydedd belawd ar ddeg o ben afon Taf ac ildio tri rhediad yn unig wrth i Swydd Surrey stryffaglu i 91-3.
Cyrhaedodd yr ymwelwyr eu cant ac Amla ei hanner canred (oddi ar 42 o belenni) yn y bedwaredd belawd ar ddeg gydag O’Brien yn taro chwech anferth i gyfeiriad y cwtsh, y cyfanswm yn 104-3 gyda chwe phelawd yn weddill.
Wagg dychwelodd i ben afon Taf yn y bymthegfed pelawd a chael ei dorri am bedwar gan Amla cyn i hwnnw ddarganfod ei gydwladwr Jacques Rudolph yn safle’r goes fain, y maeswr yn jyglo cyn cipio’r daliad – Swydd Surrey yn 110-4 ac Amla allan am 55.
Pelawd dawel oedd y seithfed i Forgannwg, wrth i Tom Curran ildio tri rhediad yn unig, y Cymry’n 47-2.
Ond gwneud yn iawn am hynny wnaeth Jim Allenby ar ddechrau’r wythfed, gan daro’r troellwr Gareth Batty am chwech trwy ochr y goes i gyfeiriad yr eisteddle fawr, a Morgannwg yn 58-2 erbyn diwedd y belawd.
Tom Curran barhaodd o ben afon Taf i fowlio’r nawfed a chael ei dynnu am chwech i gyfeiriad y pafiliwn ar ochr y goes gan Allenby cyn i’r Awstraliad dorri heibio’r wicedwr am bedwar wrth i Forgannwg ymestyn eu cyfanswm i 72-2.
Parhau wnaeth ffydd yr ymwelwyr yn Batty yn y bedwaredd belawd ar ddeg, ond ildiodd bedwar rhediad llydan cyn i Allenby gyrraedd ei hanner canred oddi ar 38 o belenni, a Morgannwg yn 80-2 hanner ffordd trwy’r batiad.
Newidiodd Peterson i ben afon Taf yn yr unfed belawd ar ddeg a chael ei dynnu am bedwar gan Stewart Walters oedd yn dechrau magu hyder wedi cadw cwmni i Allenby y pen arall – y Cymry’n 87-2 gyda naw pelawd yn weddill.
Ond dychwelodd Allenby i’r cwtsh yn y ddeuddegfed, wedi’i stympio gan Gary Wilson oddi ar Gareth Batty am 52, y cyfanswm bellach yn 90-3.
Ychwanegodd y batiwr newydd Chris Cooke ddau rediad at gyfanswm Morgannwg wrth iddyn nhw gyrraedd 92-3 erbyn diwedd y ddeuddegfed.
Daeth wyth rhediad oddi ar y drydedd belawd ar ddeg wrth i Forgannwg gyrraedd y cant erbyn diwedd y belawd.
Wrth i Forgannwg gymryd tolc allan o’r nod, parhau gyda Batty wnaeth yr ymwelwyr yn y belawd nesaf, a hwnnw’n dechrau rhoi pwysau ar Walters ac Allenby wrth i’r cyfanswm gyrraedd 105-3 gyda chwe phelawd yn weddill.
Curran ddychwelodd o ben afon Taf i fowlio’r bymthegfed, a llwyddo ar unwaith wrth i Cooke ddarganfod dwylo Jade Dernbach ar y ffin – Morgannwg yn 105-4 a’r batiwr newydd Ben Wright yn cael ei fowlio am ddau wrth i Forgannwg gyrraedd 111-5 – y ddwy sir yn gyfartal wrth i Forgannwg ddechrau ar y pelawdau clo.
Y pelawdau clo
Cyrhaeddodd Swydd Surrey bum pelawd ola’r batiad gyda’r cyfanswm yn Nelson – 111-4 – a’r angen i glatsio’n dechrau cynyddu, ond does fawr neb gwell nag Azhar Mahmood i gamu i’r llain yn y sefyllfa honno.
Chwe rhediad yn unig ildiodd Allenby yn yr unfed belawd ar bymtheg wrth i’r ymwelwyr gyrraedd 117-4.
Hogan ddychwelodd o ben afon Taf i fowlio’r ail belawd ar bymtheg a bu bron iddo gipio wiced O’Brien wrth i Ben Wright fethu gafael yn y bel yn y cyfar.
Manteisiodd y Gwyddel ar siom Morgannwg, gan daro Hogan am bedwar trwy ochr y goes yn ddiweddarach yn y belawd wrth i’r ymwelwyr ymestyn eu cyfanswm i 127-4 gyda thair pelawd yn weddill.
Yn seiniau’r drymiau Affro-Caribiaidd, dychwelodd Sammy i fowlio o ben Heol y Gadeirlan ac ildio pedwar oddi ar belen wag unwaith eto.
Pelen wag arall oedd y belen rydd oedd yn golygu pelen rydd ychwanegol a Mahmood yn manteisio wrth yrru’n syth heibio’r bowliwr am bedwar.
Ond ymatebodd Sammy trwy wasgaru ffyn Mahmood o dair llath ar hugain, yr ymwelwyr yn 141-5 wrth i’r batiwr llaw chwith o Dde Affrica, Robin Peterson ddod i’r llain.
Un rhediad gafodd ei ychwanegu cyn diwedd y ddeunawfed, cyn i Wagg ddychwelyd o ben afon Taf i fowlio’r belawd olaf ond un.
Tarodd O’Brien bedwar dros ben y cylch i’r ffin ar yr ochr agored cyn gwthio trwy ochr y goes am bedwar arall wrth i Swydd Surrey gyrraedd 153-5.
Hogan gafodd y cyfrifoldeb o fowlio’r belawd olaf o ben Heol y Gadeirlan a chael ei daro dros ben y cwtsh am chwech gan O’Brien cyn i faesu gwych ar y ffin gan Sammy atal pedwar arall oddi ar y belen olaf, yr ymwelwyr yn gorffen eu batiad ar 165-5 a Kevin O’Brien yn 40 heb fod allan.
Darren Sammy gamodd i’r llain ar ddechrau’r unfed belawd ar bymtheg, wrth i Forgannwg anelu am nod o 55 oddi ar 30 o belenni.
Tarodd Walters bedwar oddi ar Robin Peterson cyn i Sammy golli’i wiced, goes o flaen heb ychwanegu at gyfanswm Morgannwg – 116-6.
Ychwanegodd Walters dri rhediad at y cyfanswm erbyn diwedd y belawd, Morgannwg bellach yn 119-6 a’r nod yn 47 oddi ar 24 o belenni.
Ychwanegodd Morgannwg bedwar heibiad i’r cyfanswm oddi ar Dernbach yn yr ail belawd ar bymtheg oddi ar belen wyllt wrth i’r cyfanswm gyrraedd 129-6 gyda thair pelawd yn weddill.
Trodd yr ymwelwyr at Azhar Mahmood i fowlio’r ddeunawfed belawd a chipiodd wiced Wagg, wedi’i fowlio am bump gyda nod o 33 o rediadau i’w sgorio o hyd oddi ar ddeuddeg o belenni.
Dernbach barhaodd o ben afon Taf yn y belawd olaf ond un gyda gobeithion Morgannwg yn dechrau pylu, wrth i Walters daro’n syth i’r awyr ac i ddwylo Pietersen – Morgannwg yn 134-8.
Yn nwylo Dean Cosker ac Andrew Salter roedd tynged Morgannwg, felly, ond roedd yr her yn dechrau ymddangos yn anodd os nad yn amhosib.
Pump rhediad gafodd Morgannwg oddi ar y bedwaredd belawd ar bymtheg, i adael 28 am y fuddugoliaeth oddi ar chwe phelen.
Dychwelodd Azhar Mahmood o ben Heol y Gadeirlan, gyda Cosker yn blocio’r belen gyntaf heb ychwanegu at y cyfanswm cyn tynnu’n uchelgeisiol am dri rhediad i roi Salter o flaen y bowliwr gyda phedair pelen yn weddill.
Sengl gafodd hwnnw i roi’r streic i Cosker unwaith eto ond golygodd bowlio tynn gan Mahmood fod Morgannwg yn syrthio 17 rhediad yn brin, er gwaethaf ergyd rymus am bedwar gan Cosker oddi ar y belen olaf.