Mae brawd y chwaraewyr pêl-droed Yaya a Kolo Toure wedi marw mewn ysbyty ym Manceinion.

Roedd Ibrahim Toure yn 28 oed ac wedi bod yn brwydro canser.

Bu farw ddoe, a’r un diwrnod roedd ei frodyr Yaya a Kolo Toure yn chwarae i’r Traeth Ifori yn erbyn Colombia yng Nghwpan y Byd.

Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Y Traeth Ifori fe gafodd Yaya a Kolo Toure wybod am farwolaeth eu brawd “oriau wedi gêm” ym Mrasil.

Roedd Ibrahim Toure yn ymwelydd cyson â maes hyfforddi Manchester City, lle mae ei frawd Yaya Toure yn un o’r prif sêr, ac mae’r clwb wedi cydymdeimlo gyda’r teulu.