Neithiwr yn Minsk fe wnaeth tîm merched Cymru gipio buddugoliaeth yn erbyn Belarws 3-0.

Fe wnaeth Natasha Harding sgorio tair gôl yn hwyr yn y gêm i Gymru a nawr maen nhw’n yr ail safle tu ôl i Loegr yn eu grŵp, a’u gobeithion o fynd drwodd i  Gwpan y Byd yn Canada dal yn fyw.

Cyn belled mae Cymru bump o bwyntiau y tu ôl i Loegr ac yn eu croesawu ar y 21ain o Awst i Stadiwm Dinas Caerdydd.  Mi fydd y pedwar tîm sy’n dod yn ail yn y grwpiau yn chwarae ei gilydd mewn gemau ail gyfle, er mwyn penderfynu pa rai fydd yn scirhau eu lle yng Nghwpan y Byd.

Mae Cymru wedi ymestyn ei mantais dros Iwcrain i naw pwynt bellach wrth iddyn nhw dargedu’r cyfle am gêm ail gyfle.