Mae Abertawe wedi cyhoeddi mai Goldenway fydd prif noddwyr y clwb y flwyddyn nesaf, gyda’r cytundeb yn fwy nag unrhyw un blaenorol yn hanes y clwb.

Goldenway oedd prif noddwyr y clwb y llynedd ac mae’r cytundeb newydd yn ymestyn tan ddiwedd tymor 2015/16.

Mae sôn bod y cytundeb newydd enfawr werth dros £4 miliwn, bron dwbl y cytundeb blaenorol.

Mae’r cytundeb i’w weld yn adlewyrchu twf Uwch Gynghrair Lloegr yn Asia sydd tua 30% o’r gynulleidfa fyd-eang, gyda dros 200 miliwn yn gwylio gemau yn Tsieina.

Dywedodd is-ganghellor Abertawe, Leigh Dineen: “Rydym wrth ein boddau  i ymestyn ein partneriaeth gyda Goldenway am ddwy flynedd ychwanegol.

“Rydym wedi datblygu perthynas ardderchog gyda Goldenway dros y 12 mis diwethaf sydd wedi bod yn hynod o fanteisiol i’r ddwy ochr.”

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, fe ychwanegodd Rheolwr Buddsoddiad Goldenway, Brian Tsui: “Yr wyf yn falch bod Goldenway, fel brand, yn tyfu eu portffolio o noddi chwaraeon yn fyd-eang.

“Mae’r berthynas gydag Abertawe yn un werthfawr. Mae cysylltiad gyda chlwb mor angerddol am hybu gwerth Goldenway yn sicr.”

Mae’r cyhoeddiad yn dod ar yr un dydd a’r rhestr gemau ar gyfer y tymor nesaf.

Bydd Abertawe yn dechrau’r tymor newydd wrth herio Manchester United yn Old Trafford cyn croesawu Burnley yng ngêm gyntaf y tymor yn Stadiwm Liberty.