Mae Morgannwg wedi curo Swydd Gaint o fatiad ac 11 rhediad ar bedwerydd diwrnod eu gornest yn ail adran y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Gaint yn Stadiwm Swalec.

Mae’n golygu bod y Cymry’n codi i’r pedwerydd safle yn y tabl.

Cipiodd y bowliwr cyflym o Awstralia, Michael Hogan bum wiced yn y ddau fatiad i sicrhau’r fuddugoliaeth, gan orffen gyda ffigurau dros y ddau fatiad o 10-125.

Wedi iddyn nhw ennill y dafl, penderfynodd Swydd Gaint fatio’n gyntaf ac fe darodd y capten Rob Key 63 wrth i’r ymwelwyr gael eu bowlio allan am 253.

Cipiodd Hogan 5-58 yn y batiad cyntaf, gyda Jim Allenby a’r troellwr ifanc Andrew Salter yn cipio dwy wiced yr un.

Mae’n rhaid bod Key wedi difaru ei benderfyniad i fatio’n gyntaf wrth i Forgannwg ymateb gyda 527 yn eu batiad cyntaf nhw, wrth i’r batiwr agoriadol o Dde Affrica, Jacques Rudolph (103) ac Allenby (100)  daro canred yr un i roi mantais batiad cyntaf i Forgannwg o 274.

Collodd Chris Cooke allan ar ganred o drwch blewyn, wedi’i fowlio gan Adam Riley am 96.

Cyfrannodd y capten Mark Wallace 82 o rediadau a sgoriodd Graham Wagg 66.

Wrth geisio achub yr ornest i Swydd Gaint, tarodd Darren Stevens 60 yn eu hail fatiad ac fe gafodd ei gefnogi gan Adam Ball (50), ond daeth yr ornest i ben cyn cinio wrth i’r ymwelwyr golli pum wiced a chael eu bowlio allan am 263, 11 o rediadau’n brin o gyfanswm Morgannwg.