Bydd Caerdydd yn dechrau ar gyfnod newydd yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf o flaen camerâu Sky Sports.

Mae eu gornest oddi cartref yn erbyn Blackburn wedi cael ei symud i nos Wener, Awst 8 i’w darlledu’n fyw.

Disgynnodd Caerdydd o’r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.

Bydd eu dwy gêm ganlynol yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Huddersfield (Awst 16) a Wigan (Awst 19).

Byddan nhw’n teithio i Charlton ar Ddydd San Steffan, ond fe fydd cyfle i orffwys ar Ddydd Calan.

Byddan nhw’n chwarae eu gêm olaf yng Nghaerdydd yn erbyn Blackpool ar Ebrill 25, cyn teithio i Nottingham Forest i orffen y tymor ar Fai 2.

Mae modd gweld y rhestr gemau yn llawn yma.