Cafodd tîm dan-19 Cymru gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Gwlad Belg ddoe ar ôl gornest gyntaf eu grŵp Rownd Elît ym Mhencampwriaeth Ewrop.
Ymosodwr Caerdydd Tom O’Sullivan rwydodd y gôl agoriadol i’r Cymry ar ôl 38 munud, cyn i gapten Gwlad Belg Francois Marquet unioni’r sgôr toc wedi awr o chwarae.
Ond er gwaethaf pwysau trwm gan y Belgiaid, a gafodd 22 ergyd ar y gôl o’i gymharu â dim ond tair i Gymru, fe ddaliodd bechgyn Geraint Williams ymlaen am y pwynt.
Doedd Josh Sheehan o Abertawe ddim ar gael ar gyfer y gêm agoriadol oherwydd gwaharddiad, tra bod George Williams, Declan John a Harry Wilson i gyd wedi gorfod tynnu allan o’r garfan.
Bydd Cymru’n wynebu Portiwgal yn ail gêm eu grŵp brynhawn dydd Gwener, cyn gorffen wrth herio Groeg ar ddydd Llun.
Mae holl gemau’r grŵp yn cael eu chwarae ym Mhortiwgal, gyda’r enillydd yn mynd ymlaen i Bencampwriaeth derfynol dan-19 Ewrop yn Hwngari ym mis Awst.
Yng ngêm arall y grŵp ddoe fe enillodd Portiwgal o 3-0 yn erbyn Groeg.
Tîm Cymru: Michael Crowe, Gethin Jones, Jordan Evans, Rob Evans, Dominic Smith, Josh Yorwerth, Ryan Hedges, Declan Weeks, Bradley Reid, Tom O’Sullivan, Owain Jones.
Eilyddion: Billy O’Brien, Curtis Strong, Thomas James, Jake Charles, Alex Bray, Callum Saunders