Mae Abertawe newydd gyhoeddi eu bod nhw wedi arwyddo golwr Arsenal, Lukasz Fabianski am ddim.
Fabianski, sy’n golwr tîm cenedlaethol Gwlad Pŵyl, yw’r chwaraewr cyntaf sydd wedi symud i Abertawe ers i’r rheolwr newydd, Garry Monk ddisodli Michael Laudrup ganol y tymor diwethaf.
Yn sgil y cyhoeddiad heddiw, mae disgwyl i golwr Abertawe, Michel Vorm symud i Lerpwl cyn dechrau’r tymor nesaf.
Roedd adroddiadau ddoe bod Lerpwl yn barod i wneud cais ffurfiol am golwr yr Iseldiroedd, ond mae Abertawe a Lerpwl wedi gwadu hyd yma eu bod ar fin dod i gytundeb ar ffi.
Mae Vorm, ymunodd o glwb Utrecht am £1.5 miliwn yn 2011, hefyd wedi’i gysylltu ag Arsenal.
Pe bai’n symud, mae disgwyl i Abertawe osod pris o £7 miliwn am ei wasanaethau.