Tom Lawrence
Mae Tom Lawrence wedi tynnu allan o garfan dan-21 Cymru fydd yn wynebu Lloegr nos Lun ar ôl iddo gael anaf wrth chwarae i dîm ieuenctid Manchester United neithiwr.
Fe sgoriodd Lawrence y gôl gyntaf wrth i Man United golli 2-1 i Chelsea yn rownd derfynol yn Uwch Gynghrair dan-21 cyn cael yr anaf.
Fe wnaeth yr ymosodwr ei ymddangosiad cyntaf dros dîm cyntaf Man United mewn buddugoliaeth ddiweddar o 3-1 dros Hull.
James Loveridge o Abertawe sydd yn cymryd lle Lawrence yng ngharfan dan-21 Cymru, gyda’r tîm angen ennill yn erbyn Lloegr i gael unrhyw siawns o orffen ar frig y grŵp.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru hefyd wedi cadarnhau na fydd Scott Tancock o Abertawe’n medru ymuno â’r garfan, sydd yn cyfarfod heddiw, gyda Daniel Alfei o’r Elyrch yn cymryd ei le.
Ar hyn o bryd mae Cymru’n drydydd yng Ngrŵp Un ar gyfer rowndiau rhagbrofol Ewro 2015 gyda thair gêm yn weddill, â Lloegr naw pwynt o’u blaenau nhw ar y brig.
Moldova sydd yn ail gydag 13 pwynt, tair o flaen Cymru, ac mae’n rhaid i Gymru orffen yn y ddau safle uchaf os ydyn nhw am gael unrhyw siawns o gyrraedd y gemau ail gyfle.
Eu gêm yn erbyn Lloegr nos Lun yn Stadiwm Liberty, Abertawe, yw eu gêm gartref olaf yn y grŵp, gyda thripiau i’r Ffindir a Lithwania i ddod ym mis Medi.