Y Seintiau Newydd 1–1 Airbus
Coronwyd y Seintiau Newydd yn bencampwyr Uwch Gynghrair Cymru am yr wythfed tro yn dilyn gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Airbus ar Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn.
Roedd y pencampwyr ar y blaen am ran helaeth o’r gêm yn erbyn eu gelynion pennaf cyn i Airbus gipio pwynt gyda chic o’r smotyn hwyr Tom Field. Ond roedd pwynt yn ddigon i gadarnhau mai’r Seintiau Newydd yw’r pencampwyr unwaith eto.
Hanner Cyntaf
Er mai’r Seintiau a gafodd y gorau o’r tir a’r meddiant yn yr hanner awr cyntaf, yr ymwelwyr a gafodd y cyfleoedd gorau i agor y sgorio.
Daeth y cyntaf o’r rheiny i Andy Jones wedi deunaw munud ond methodd a gwneud cysylltiad â’r bêl yn y cwrt chwech yn dilyn cic rydd dda Glenn Rule.
Rule ei hunan a gafodd y cyfle nesaf yn dilyn gwaith da Steve Jones ar y chwith, ond tarodd y chwaraewr canol cae y postyn pan ddylai fod wedi canfod cefn y rhwyd mewn gwirionedd.
Y Seintiau, serch hynny, a orffennodd yr hanner orau ac roeddynt ar y blaen ddeuddeg munud cyn yr egwyl diolch i gôl Mike Wilde. Rhyng-gipiodd Matty Williams bas Ashley Williams yn ôl i’r golwr ac fe lithrodd Wilde y bêl i’r gôl.
Ail Hanner
Cafodd Wilde gyfle da i ddyblu mantais ei dîm yn gynnar iawn yn yr ail gyfnod ond anelodd prif sgoriwr y Seintiau ei gynnig heibio’r postyn.
Wilde a gafodd gyfle nesaf y Seintiau hefyd yn dilyn symudiad tîm da ddeunaw munud o’r diwedd, ond er iddo daro’r targed tro hwn roedd ei gynnig yn syth at James Coates yn y gôl.
A bu rhaid i’r Seintiau dalu’n ddrud am fethu’r cyfleoedd hynny pan unionodd yr eilydd, Field, o’r smotyn bedwar munud o ddiwedd y naw deg. Pwyntiodd y dyfarnwr, Lee Evans, at y smotyn ar ôl gweld trosedd gan gôl-geidwad y Seintiau, Paul Harrison, ar flaenwr Airbus, James Oswell – trosedd na welodd neb arall arall ar y cae!
Airbus oedd yn edrych yn fwyaf tebygol o’i hennill hi wedi hynny ond methodd Chris Budrys ddau gyfle euraidd yn yr amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm. Daeth o fewn modfeddi o ganfod y gornel uchaf gydag ergyd o ochr y cwrt cosbi cyn methu peniad rhydd yn y cwrt chwech yn yr eiliadau olaf.
Daliodd y Seintiau eu gafael felly ar y pwynt, pwynt oedd yn ddigon i sicrhau’r bencampwriaeth iddynt unwaith eto. Hon yw eu hwythfed pencampwriaeth, a’r tîm sydd wedi eu lleoli yng Nghroesoswallt yw’r tîm mwyaf llwyddiannus yn hanes Uwch Gynghrair Cymru bellach.
.
Y Seintiau Newydd
Tîm: Harrison, A. Edwards (Spender 59’), Marriott, Baker, K. Edwards, Finley, Williams, Seargeant, Mullan Wilde (Draper 77’), Jones
Gôl: Wilde 33’
Cardiau Melyn: A. Edwards 40’, Williams 75’, Harrison 87’
.
Airbus
Tîm: Coates, Pearson, Kearney, A. Jones, Rule (Field 57’), Budrys, S. Jones (Oswell 80’), Roddy (Abbot 80’), Hart, Owen, Williams
Gôl: Field [c.o.s.] 87’
Cardiau Melyn: Roddy 28’, Rule 36’, Owen 89’
.
Torf: 436