Southampton 0–1 Caerdydd
Cadwodd Caerdydd eu gobeithion o aros yn Uwch Gynghrair Lloegr yn fyw gyda buddugoliaeth bwysig yn erbyn Southampton yn Stadiwm St Mary’s brynhawn Sadwrn.
Er bod y Cymry’n parhau yn safleoedd y gwymp, mae ganddynt hanner gobaith o aros i fyny wedi i ergyd Juan Torrez Ruiz sicrhau’r tri phwynt iddynt yn Southampton.
Southampton a gafodd y gorau o’r meddiant trwy gydol y gêm a chawsant sawl cyfle i fynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf.
Gaston Ramirez a ddaeth agosaf i’r tîm cartref ond llwyddodd amddiffynnwr Caerdydd, Steven Caulker, i wneud digon i wyro ei gynnig yn erbyn y trawst.
Wedi gwneud yn dda i aros yn y gêm am awr fe gafodd Caerdydd eu gwobr hanner ffordd trwy’r ail hanner pan rwydodd Torrez Ruiz gyda gôl wych o ochr y cwrt cosbi.
Bu gôl David Marshall yn y pen arall dan warchae wedi hynny hefyd ond gwnaeth yr Albanwr yn wych i gadw llechen lân i’w dîm gydag arbediadau da i atal Sam Gallagher a Nathaniel Clyne.
Mae Caerdydd yn aros yn y pedwerydd safle ar bymtheg er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent wedi cau’r bwlch ar Norwich sydd yn yr ail safle ar bymtheg i dri phwynt.
Dim ond pedair gêm sydd ar ôl i’r ddau dîm ond mae gemau Norwich i gyd yn erbyn timau o’r saith uchaf. Mae Caerdydd ar y llaw arall angen herio Stoke, Sunderland, Newcastle a Chelsea.
.
Southampton
Tîm: Gazzaniga, Chambers (Clyne 67′), Shaw, Schneiderlin, Fonte, Lovren, Davis, Cork (Do Prado 79′), Lambert, Ramírez (Gallagher 66′), Lallana
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Théophile-Catherine, Fabio (McNaughton 78′), Medel (Zaha 61′), Caulker, Torres Ruiz, Kim, Mutch, Campbell, Whittingham, Daehli (Bellamy 87′)
Gôl: Torrez Ruiz 65’
.
Torf: 30,526