Casnewydd 2–0 Wycombe

Cipiodd Casnewydd y tri phwynt yn erbyn Wycombe brynhawn Sadwrn gyda dwy gôl gyflym yn yr ail hanner ar Rodney Parade.

Sgoriodd Christian Jolley a Chris Zebroski o fewn pum munud i’w gilydd wrth drechu’r tîm sy’n brwydro tua gwaelod yr Ail Adran.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr fe rwydodd Jolley’r gôl agoriadol hanner ffordd trwy’r ail hanner wrth wyro peniad Ryan Jackson heibio i Matthew Ingram yn y gôl i’r ymwelwyr.

Roedd hi’n ddwy bum munud yn ddiweddarach diolch i ergyd gadarn Zebroski i do’r rhwyd yn dilyn gwaith creu Rene Howe.

Mae’r canlyniad hwn yn codi Casnewydd i’r trydydd safle ar ddeg yn y tabl a fwy neu lai yn ei diogelu yn yr Ail Adran am dymor arall.

.

Casnewydd

Tîm: McLoughlin, Sandell, Jackson, Porter, Blake, Feely, Minshull, Flynn, Howe (Willmott 87′), Jolley, Zebroski

Goliau: Jolley 68’, Zebroski 73’

.

Wycombe

Tîm: Ingram, McCoy, Arnold (Jeffrey 78′), Lewis, Pierre, Rowe, Scowen, Wood, McClure, Craig (Kuffour 72′), Kretzschmar (Morgan 57′)

Cerdyn Melyn: Pierre 89’

.

Torf: 2,838