Mae tîm merched Cymru wedi gorffen yn wythfed yng Nghwpan Algarve ar ôl colli 2-1 yn erbyn Tsieina.
Roedd Cymru yn cystadlu gyda Tsieina am y seithfed safle ar ôl dod ar frig Grŵp C y gystadleuaeth ym Mhortiwgal.
Roedd Cymru wedi colli eu gêm agoriadol yn erbyn Portiwgal 3-1 cyn mynd ‘mlaen i sicrhau buddugoliaethau yn erbyn Rwmania (2-1) a Chile (2-1).
Roedd Cymru’n wynebu tasg anodd yn erbyn tîm profiadol Tsiena a fydd yn chwarae yng Nghwpan y Byd yn yr Almaen yr haf yma. Mae Tsieina hefyd wedi ennill Cwpan Algarve ar ddau achlysur yn 1999 a 2002.
Fe aeth Tsieina ar y blaen gyda gôl gynnar gan You Jia. Ond fe amddiffynnodd Cymru yn gadarn tan yr egwyl i atal eu gwrthwynebwyr rhag ymestyn eu mantais.
Ond wedi llai na deg munud o’r ail hanner fe ddyblodd Tsieina eu sgôr gyda Gu Yasha yn canfod cefn y rhwyd.
Fe drawodd Cymru’n ôl gydag ymosodwraig Chelsea, Helen Lander yn sgorio yn dilyn ergyd cynt gan Gwennan Harries.
Fe allai Cymru fod wedi unioni’r sgôr gyda thair munud yn weddill pan gafwyd cic o’r smotyn. Ond fe gafodd ymdrech capten Cymru, Emma Jones ei arbed gan olwr Tsieina.