Ole Gunnar Solksjaer
Mae Caerdydd wedi colli eu gêm yn erbyn Wigan yng nghystadleuaeth y Cwpan FA.

Roedd Wigan ar y blaen o ddwy gôl i un ar hanner amser, ac roedd yr ail hanner yn ddi-sgor.

Mi wnaeth Juan Cala o Gaerdydd hitio’r postyn gydag un ymdrech i sgorio, ac fe arbedwyd ymdrech arall munud olaf gan yr eilydd Craig Noone gan gôl geidwad Wigan.

Gêm arall sydd wedi ei cholli o dan ofal rheolwr newydd Caerdydd, Ole Gunnar Solskjaer.