Mae’n ymddangos fod ’na wahaniaeth barn ymhlith darllenwyr golwg360 ynglyn â phwy ddylai gymryd yr awenau fel rheolwr nesaf Abertawe yn dilyn ymadawiad Michael Laudrup – ond dyw’r dyn dros dro Garry Monk ddim yn un o’r ceffylau blaen.

Y gŵr o’r Iseldiroedd Dennis Bergkamp yw ffefryn pleidleiswyr y wefan i gymryd yr awenau yn Stadiwm Liberty o drwch blewyn, ond gyda dim ond 17% o’r bleidlais iddo mae nifer o enwau eraill hefyd yn boblogaidd.

Yn gydradd ail ar 15% mae’r hyfforddwr o Chile, Marcelo Bielsa, a’r ddau Gymro Mark Hughes a John Toshack.

Aeth 12% am yr opsiwn o rywun arall ac eithrio rhestr fer golwg360, gyda Monk ac is-hyfforddwr Everton Graham Jones yn denu 9% o bleidlais yr un, a chyn-reolwr West Brom Steve Clarke yn cael 6%.

Ond er ei fod wrthi’n astudio am ei fathodynnau hyfforddi yng Nghymru ar hyn o bryd, dyw Marcel Desailly ddim yn ymddangos fel petai ganddo lawer o gefnogaeth – gyda dim un o’r 65 yn ei ddewis.

Dadansoddiad Iolo Cheung

Mae’r canlyniadau’n awgrymu’n gryf nad oes ceffyl blaen amlwg o blith cefnogwyr Abertawe, ac eraill a bleidleisiodd yn y pôl, o ran eu dewis delfrydol fel rheolwr newydd.

Er mai Garry Monk yw’r ffefryn gyda’r bwcis i gael y swydd ar hyn o bryd, yn rhannol oherwydd ei flynyddoedd o wasanaeth i’r clwb, byddai llawer yn hoffi petai’r cadeirydd Huw Jenkins yn edrych ar opsiynau eraill hefyd.

Pedwar enw sy’n sefyll allan, sef Bergkamp a Bielsa, a Hughes a Toshack.

Mae Bergkamp ar hyn o bryd yn gweithio gydag Ajax, clwb sydd yn rhannu’r un math o ethos a steil pêl-droed ag Abertawe, felly’n un fyddai’n siŵr o weddu’n dda.

Cafodd Bielsa cryn dipyn o lwyddiant gyda’r Ariannin a Chile cyn symud i Athletic Bilbao – a pan mae Pep Guardiola’n eich galw’n “rheolwr gorau’r byd”, ‘da chi’n gwybod fod yna rywbeth arbennig amdano.

Mae gan Hughes a Toshack y cysylltiad Cymreig yna wrth gwrs, ac mae Toshack yn arwr hanesyddol i Abertawe beth bynnag, felly hawdd deall pam y byddai rhai’n hoffi’u gweld nhw wrth y llyw yn Abertawe.

Ond fe aeth tipyn am yr opsiwn ‘arall’ hefyd, gydag enwau fel Alan Curtis, Harry Redknapp, Andre Villas-Boas, Gianfranco Zola a Glenn Hoddle yn cael eu crybwyll – hyd yn oed cyn-reolwr Caerdydd Malky Mackay!

Un peth sy’n sicr – bydd penderfyniad nesaf Huw Jenkins yn dyngedfennol i ddyfodol yr Elyrch yn yr Uwch Gynghrair.

Canlyniadau:

Garry Monk – 9.23%

Graham Jones – 9.23%

Dennis Bergkamp – 16.92%

Marcelo Bielsa – 15.38%

Steve Clarke – 6.15%

Marcel Desailly – 0%

Mark Hughes – 15.38%

John Toshack – 15.38%

Arall – 12.31%