Southend 0–0 Casnewydd

Cafodd Casnewydd gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn Southend yn Roots Hall nos Wener.

Dyw’r Alltudion dal heb ennill yn 2014 ond mae hwn yn ganlyniad calonogol oddi cartref yn erbyn y tîm sy’n bedwerydd.

Wedi dweud hynny, fe wastraffodd y Cymry gyfle gwych i’w hennill hi wrth fethu cic o’r smotyn ar ddechrau’r ail hanner. Pwyntiodd y dyfarnwr at y gwyngalch wedi i Ryan Burge gael ei lorio yn y cwrt cosbi ond anelodd Robbie Willmott ei gic ym mhell heibio’r postyn.

Cafodd Willmott gyfle arall i’w hennill hi’n hwyr yn y gêm ond anelodd ei ergyd y tro hwn yn syth at Daniel Bentley yn y gôl.

Daeth y cyfle gorau Southend i Wil Atkinson ond tarodd ei beniad ef yn erbyn y postyn.

Mae’r gêm gyfartal yn cadw Casnewydd yn wythfed, saith pwynt y tu allan i’r safleoedd ail gyfle.

.

Southend

Tîm: Bentley, White, Coker, Leonard, Thompson, Phillips, Hurst, Timlin (Clifford 75′), Corr (Straker 45′), Barnard (Eastwood 61′), Atkinson

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, Pipe, Willmott, Naylor, Worley, Sandell, Chapman (Porter 71′), Minshull, Jeffers (Jolley 73′), Howe, Burge (Flynn 82′)

Cerdyn Melyn: Minshull 90’

.

Torf: 5,993