Mae Cymru wedi colli’r cyfle i gynnal Cwpanau y Byd Pêl-droed dan 17 a 20 oed yn 2015.
Roedd Cymru’n cystadlu yn erbyn Tunisia, Periw a Seland Newydd am Gwpan y Byd dan 21 ac fe benderfynodd pwyllgor FIFA wobrwyo’r gystadleuaeth i Seland Newydd.
Chile gafodd yr hawl i gynnal Cwpan y Byd dan 17 ar ôl i Gymru, Rwsia a Tunisia yn methu’r cyfle.
Roedd Cymru eisoes wedi methu’r cyfle i gynnal Pencampwriaeth Ewropeaidd dan 21 yn 2013 ar ôl i UEFA wobrwyo Israel gyda’r gystadleuaeth.
Ond fe fydd Cymru’n cynnal Pencampwriaeth Ewropeaidd Menywod dan 19 yn 2013 yn dilyn cyhoeddiad ym mis Hydref.