Huw Jenkins
Mae Abertawe wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi gwneud bron i £600,000 o elw yn y flwyddyn nes 31 Mai 2010.

Fe gyhoeddodd yr Elyrch eu bod nhw wedi gwneud elw o £593,901 y llynedd, o’i gymharu â cholled o  £457,020 y flwyddyn flaenorol.

Daw’r elw er bod gwariant y clwb cynyddu dros £3 miliwn wrth iddynt geisio ennill dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr.

Daeth yr arian o ffioedd trosglwyddo yn ogystal â thaliadau iawndal gan Wigan am eu cyn rheolwr, Roberto Martinez, a dau aelod arall o’i dîm hyfforddi.

Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr Abertawe wedi dweud eu bod nhw’n hapus gyda’r ffigurau.

Torfeydd

Mae cefnogaeth Abertawe hefyd wedi codi dros y blynyddoedd diwethaf gyda chyfartaledd o 15,060 yn gwylio’r tîm tymor y diwethaf, o’i gymharu â 14,893 yn 2008-9 a 13,520 yn 2007-8.

Ond mae cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins, wedi galw ar gefnogwyr yr Elyrch i lenwi Stadiwm Liberty bob penwythnos.

Fe gafodd y record ei dorri am y nifer fwyaf o gefnogwyr yn gwylio Abertawe yn Stadiwm Liberty yn erbyn Leeds Utd ddydd Sadwrn diwethaf. Roedd 19,309 yn bresennol bryd hynny.

“R’yn ni’n hapus ein bod ni ar drothwy llenwi’r stadiwm y penwythnos diwethaf. Fe fyddai’n braf torri’r record ac mae Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn credu bod y rheolwr a’r chwaraewr yn haeddu chwarae o flaen stadiwm lawn bob wythnos,” meddai Huw Jenkins.

“Er mwyn parhau i gystadlu ar y lefel yma, mae’n rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd i lenwi’r stadiwm bob wythnos.”