Lewin Nyatanga
Penwythnos gymharol dawel oedd hi i’r Cymry’r penwythnos yma, gyda’r ddau brif seren yn absennol – Gareth Bale oherwydd anaf, ac Aaron Ramsey oherwydd nad yw Arsenal yn chwarae tan heno.
Anlwcus fu Ashley Williams a Ben Davies gydag Abertawe, wrth i’r Elyrch golli 2-1 i gôl hwyr gan Everton ar ôl gornest gymharol gyfartal.
Chwaraeodd Joe Allen ei bedwaredd gêm lawn yn olynol i Lerpwl wrth iddyn nhw drechu Caerdydd o 3-1, er nad yw’r canlyniad hwnnw – eto – wedi golygu gêm olaf Malky Mackay fel rheolwr. Lle ar y fainc yn unig oedd i Declan John.
Colli 3-1 oedd hanes West Ham hefyd i ffwrdd yn Old Trafford yn erbyn Man United, gyda James Collins yn cael gêm anghyfforddus a chael ei eilyddio gyda chwarter awr yn weddill, a Jack Collison yn cael hanner awr.
A doedd dim llawer o hwyliau ar un o amddiffynwyr eraill Cymru chwaith, Danny Gabbidon. Colli 3-0 wnaeth Crystal Palace, ac yntau’n rhwydo i’w gôl ei hun yn hollol ddiangen, gyda Jonny Williams a Lewis Price yn gwylio’r cyfan o’r ystlys.
Tawel oedd Cymry’r Bencampwriaeth hefyd gyda neb yn sgorio, er i Rhoys Wiggins greu gôl wrth i yntau a Simon Church frwydro i gêm gyfartal gyda Bolton – a Craig Davies yn methu a gwneud argraff i’r gwrthwynebwyr yn ei chwarter awr ar y cae.
Dychwelodd Lewin Nyatanga i Barnsley am ei gêm gyntaf o’r tymor, gan chwarae’i ran yn dda i’r Tykes wrth iddyn nhw gadw llechen lan mewn gêm gyfartal gyda Leeds.
Ennill y gwnaeth Adam Henley gyda Blackburn a Sam Vokes gyda Burnley, tra mai ofer oedd ymdrechion Chris Gunter i Reading a Steve Morison i Millwall.
Ac yn anffodus i’r chwaraewyr canol cae Andrew Crofts ac Andy King, rhaid oedd iddyn nhw wylio’u timau o’r ystlys gyda’r un ohonynt yn cael gêm.
Yn yr Alban, buddugoliaeth gyfforddus oedd hi i Joe Ledley a Celtic o 2-0 yn erbyn Hearts, tra na chwaraeodd Sam Ricketts na Dave Edwards ran yn yr un o dair gôl Wolves wrth iddyn nhw gael gêm gyfartal yn erbyn Rotherham yng Nghynghrair Un.
Seren yr wythnos: Lewin Nyatanga – dychwelyd o’i anaf o’r diwedd, ac mae angen mwy o opsiynau gan Gymru yn yr amddiffyn.
Siom yr wythnos: Andy King – Ar y fainc am yr ail gêm yn olynol, ac mae un yn amau nad cael ei orffwys dros y Dolig felly mae hwn.