Abertawe 2–1 Everton
Roedd angen dwy gôl wych ar Everton i guro Abertawe yn yr Uwch Gynghrair ar y Liberty brynhawn Sul.
Rhoddodd Seamus Coleman yr ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd trwy’r ail hanner gyda tharan o ergyd cyn i’r Elyrch unioni diolch i gôl i’w rwyd ei hun gan Bryan Oviedo. Yna, enillodd Ross Barkley y gêm i Everton gyda chic rydd grefftus chwe munud o’r diwedd.
Cafwyd hanner cyntaf i’w anghofio ond roedd hi’n dipyn gwell gêm wedi’r egwyl gydag Everton yn bygwth yn gyson.
Cafodd Barkley gyfle da i agor y sgorio ond llwyddodd i faglu dros y bêl wrth geisio ergydio. Gwnaeth yn well toc wedi’r awr pan yr oedd angen blaenau bysedd Gerhard Tremmel i wyro ei ergyd yn erbyn y trawst.
Yna daeth y gôl agoriadol. Roedd Coleman wedi bod yn ddraenen gyson yn ystlys Abertawe ar y dde ac roedd ergyd y cefnwr i’r gornel uchaf o bum llath ar hugain yn un i’w chofio.
Roedd Abertawe yn gyfartal o fewn pum munud serch hynny diolch i waith da gan eu cefnwyr hwy. Gwnaeth Dwight Tiendalli yn dda i gyrraedd croesiad Ben Davies yn gyntaf a gwyrodd ei ergyd i gefn y rhwyd oddi ar Oviedo.
Aeth Everton yn ôl ar y blaen chwe munud o’r diwedd ac roedd Davies yn ei chanol hi eto. Ildiodd gic rydd mewn man peryglus wrth droseddu James McCarthy a chafodd ei gosbi wrth i Barkley grymanu’r gic rydd ganlynol yn gelfydd i’r gornel uchaf.
Gôl a oedd yn llawn haeddu ennill gêm heb os ond cafodd Abertawe gyfleoedd i unioni yn y munudau olaf. Gwnaeth Tim Howard ddau arbediad da i atal Pablo Hernández a Roland Lamah a gwastraffodd Álvaro Vasquez gyfle da yn yr eiliadau olaf hefyd.
Mae Abertawe yn gorffen y penwythnos yn yr unfed safle ar ddeg felly, yn disgyn un lle yn dilyn buddugoliaeth Stoke yn erbyn Aston Villa brynhawn Sadwrn.
Ymateb
Rheolwr Abertawe, Michael Laudrup
“Doeddwn i ddim yn meddwl ein bod ni’n haeddu colli’r gêm hon, fe ildion ni gôl hwyr pan yr oedd Everton wedi bodloni ar y gêm gyfartal.”
“Ro’n i’n meddwl ein bod yn haeddu pwynt o leiaf yn erbyn tîm da iawn, ond chawsom ni ddim felly dyna ni.”
.
Abertawe
Tîm: Tremmel, Tiendalli, Davies, Cañas, Chico, Williams, Hernández, De Guzmán (Pozuelo 86′), Bony (Alvaro 76′), Shelvey, Routledge (Lamah 66′)
Gôl: Oviedo [g.e.h.] 70’
Cerdyn Melyn: Davies 83’
.
Everton
Tîm: Howard, Coleman, Oviedo, Barry, Jagielka, Distin, Mirallas (Osman 78′), McCarthy, Lukaku, Barkley, Pienaar (Naismith 78′)
Goliau: Coleman 66’, Barkley 84’
.
Torf: 20,695