Steve Morison
Gyda gemau yng nghanol yr wythnos yn ogystal ag ar y penwythnos i chwaraewyr yr Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth, mae’r cyfnod Nadolig prysur o gemau eisoes wedi dechrau.

Ond ar ôl cyfnod prysur tu hwnt o flaen y gôl i Aaron Ramsey yn ddiweddar, ni chafodd  yr un effaith yn y ddwy gêm ddiwethaf, er iddo greu un yn erbyn Hull nos Fercher pan enillodd Arsenal 2-0.

Cafodd un neu ddau o gyfleoedd yn erbyn Everton brynhawn ddoe mewn gêm gyfartal 1-1 sy’n cadw’i dîm ar y brig o bum pwynt, ond doedd o ddim yn edrych mor siarp ag arfer.

Profodd Abertawe fuddugoliaeth o’r diwedd yng nghanol yr wythnos o 3-0 yn erbyn Newcastle, gydag Ashley Williams a Ben Davies yn rhan o’r amddiffyn – maen nhw’n herio Hull heno hefyd.

Ac mae wedi bod yn wythnos dda i Joe Allen a Danny Gabbidon hefyd, gydag Allen yn chwarae 90 munud ddwywaith am y tro cyntaf y tymor hwn mewn dwy fuddugoliaeth gyfforddus i Lerpwl, a Gabbidon a Chrystal Palace yn troi cornel o dan y Cymro Tony Pulis gyda dwy lechen lân yn erbyn West Ham a Chaerdydd.

Dim ond un Cymro oedd i’w weld ar y cae i Gaerdydd yn y golled 2-0 i Palace a’r gêm gyfartal 0-0 i Stoke, a’r cefnwr chwith ifanc Declan John oedd hwnnw. Chwaraeodd 90 munud yn y ddwy gêm – gwobr dda am arwyddo cytundeb newydd gyda’r clwb!

Chwaraeodd James Collins a Boaz Myhill ddwy gêm lawn yr un yr wythnos yma hefyd, ond heb fawr o lwc – ildiodd Myhill bump yn gyfan gwbl, ac fe gafodd Collins a West Ham grasfa 4-1 gan Allen a Lerpwl dydd Sadwrn.

Yn y Bencampwriaeth, digon distaw oedd yr ymosodwyr Sam Vokes a Simon Church sydd wedi bod yn chwarae’n dda hyd yn hyn y tymor yma, y ddau yn chwarae dwy gêm yr un ond yr un ohonynt yn llwyddo i rwydo – er i Vokes ddod yn agos nifer o weithiau.

Ond cafodd Cymry Millwall gwell lwc o lawer. Sgoriodd Steve Morison gôl a chreu un arall yn eu gêm gyfartal yn erbyn Nottingham Forest nos Fawrth, cyn rhwydo’r gôl agoriadol wrth iddyn nhw drechu Wigan 2-1 ddydd Sadwrn – a Jermaine Easter ddaeth oddi ar y fainc i selio’r fuddugoliaeth honno gyda gôl i’w hun.

Rhwydodd Andy King i Gaerlŷr hefyd brynhawn Sadwrn, er mai colli i Andrew Crofts a Brighton o 3-1 oedd eu hanes. Ond roedd gôl yr wythnos i’r Cymry’n mynd i David Cotterill, ddaeth oddi ar y fainc nos Fawrth a tharanu gôl o 30 llathen i achub pwynt i Doncaster yn erbyn Birmingham.

Roedd y Cymry eraill a chwaraeodd ran i’w timau yn ystod yr wythnos yn cynnwys Rhoys Wiggins, Joel Lynch, Hal Robson-Kanu, Chris Gunter – ac Adam Henley, cefnwr de Blackburn a aned yn yr UDA ond sydd wedi ennill 3 cap i dîm dan-21 Cymru.

Chwaraeodd Joe Ledley ac Owain Tudur Jones 90 munud yr un yn Uwch Gynghrair yr Alban, ond doedd dim gêm gan fechgyn Wolves oherwydd eu bod nhw allan o gwpan yr FA, a’r un peth nawr yn wir am Owain Fôn Williams a Tranmere ar ôl iddyn nhw golli 5-0 i Peterborough.

A rhag ofn i chi feddwl ein bod ni wedi anghofio am y dyn ei hun, Gareth Bale, fe gafodd ef benwythnos i ffwrdd hefyd, er efallai nad oedd hynny’n benderfyniad doeth gan Real Madrid wrth iddyn nhw ddim ond llwyddo i gael gêm gyfartal 0-0 yn y Copa del Rey yn erbyn Olimpic Xativa – yn union, pwy?!

Seren yr wythnos: Steve Morison – ‘da chi’n gwybod ei bod hi wedi bod yn wythnos anarferol pan mae hwn yn llwyddo i serennu!

Siom yr wythnos: Owain Fôn Williams – ‘di golwr byth yn hoffi ildio cymaint â hynny mewn gêm, hyd yn oed os oes ganddo amddiffyn gwael o’i flaen.