Bathodyn gap Cei Conna
Gap Cei Conna 4 UWIC 0
Port Talbot 0 Bangor 3
Doedd yna ddim canlyniad annisgwyl yng Nghwpan Cymru wrth i gap Cei Conna syfrdanu myfyrwyr Athrofa UWIC gyda thair gôl yn yr 20 munud cynta’.
Er bod y myfyrwyr wedi dal eu tir a bygwth rhywfaint wedyn, roedd y difrod wedi ei wneud ar lannau Dyfrdwy ac fe gafodd Cei Conna gôl arall yn y munudau ola’.
Dyma’r tro cynta’ ers mwy na deng mlynedd i’r Cei – y Nomads gynt – gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan Cymru.
Maen nhw hefyd yn mynd am ddwbl, a nhwthau’n ail yng Nghynghrair Huws Gray, yn gyfartal ar bwyntiau gyda Rhyl a gydag un gêm ychwanegol i’w chwarae.
Bangor yn dal i ennill
Fe fydd Dinas Bangor, y deiliaid, yn ymuno gyda nhw yno ar ôl curo Port Talbot yn gyfforddus yn y diwedd.
Yr ail hanner a drodd y fantol iddyn nhw ar ôl i’r Dynion Dur fethu sawl cyfle cyn yr egwyl.
Ond roedd goliau gan Moss, Morley a Bull yn ddigon i sicrhau bod Bangor yn cynnal eu rhediad hir diguro yn y Cwpan.