Jay Emmanuel-Thomas - sgorio gôl yn ystod amser anafiadau
Llwyddodd Michael Chopra a Jay Emmanuel-Thomas i sicrhau’r tri phwynt allweddol i Gaerdydd wrth sgorio gôl yr un mewn gêm dynn yn erbyn Hull y prynhawn yma.

Ar ddiwrnod pan enillodd Abertawe, QPR a Norwich roedd hi’n gwbl hanfodol i’r Adar Glas wneud yr un modd os oedden nhw am gadw eu gobeithion yn fyw am ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair y tymor nesaf.

Er mai gêm ddigon ddi-fflach a gafwyd, mae pwyntiau’n bwysicach na pherfformiad erbyn yr adeg yma o’r tymor, a manteisiodd Chopra ar yr unig gyfle i greu ysbrydoliaeth trwy benio croesiad Craig Bellamy ar ôl 65 munud.

Roedd Hull yn dal yn dynn wrth sodlau’r Adar Glas hyd nes i Jay Emmanuel-Thomas sicrhau’r fuddugoliaeth gyda chic anhygoel ym munudau olaf y gêm.

Mae’r fuddugoliaeth heddiw wedi galluogi Caerdydd i ddal eu gafael yn nhrydydd safle cynghrair Pencampwriaeth npower – un pwynt y tu ôl i’w harch-elynion, Abertawe.