Mae Cymru wedi llwyddo i aros yn y ras am bencampwriaeth y chwe gwlad trwy guro’r Eidal 24-16 yn Stadio Flaminio yn Rhufain y prynhawn yma.

Eto i gyd, fe fu’n rhaid i dîm Warren Gatland weithio’n galed am eu buddugoliaeth, a doedd fawr o sbarc yn eu perfformiad.

Roedd ceisiau gan Morgan Stoddart a Sam Warburton wedi rhoi rheolaeth i Gymru, ond llwyddodd yr Eidal i gael dau gais hefyd, gan Gonzalo Canale a’r capten Sergio Parisse.

Roedd cyfraniad Stephen Jones yn gwbl allweddol i’r fuddugoliaeth gan iddo sgorio 11 pwynt gyda’i giciau cosb a’i drosiad, ac fe lwyddodd James Hook i orffen ei 50fed gêm dros Gymru gyda gôl adlam wyth munud cyn y diwedd.

Dywedodd y capten Matthew Rees ei fod yn credu y gall Cymru ddal i ennill y bencampwriaeth er gwaetha’r ffaith iddyn nhw gael gêm ddigon anodd.

 “Dw i’n sicr y gallwn ni ddal i ennill y teitl,” meddai. “Fe wnaethon ni ennill y ddwy gêm ddiwethaf, ac mae hynny’n wych i ni.

 “Fe wyddon ni ei bod hi am fod yn anodd. Doedd y sgarmes ddim y gorau. Ond fe enillon ni’r gêm.”