Mae golwr Abertawe Michel Vorm wedi galw ar Abertawe i wneud yn iawn am golli i Gaerdydd dros y Sul trwy drechu Kuban Krasnodar yn Rwsia heno.
Bydd yr Elyrch yn herio Kuban yng Ngrŵp A Cynghrair Ewropa heno am 5yh amser Prydain gan obeithio sicrhau lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth gyda buddugoliaeth.
Maen nhw’n eistedd ar frig y grŵp ar hyn o bryd gyda saith pwynt a gyda thair gêm ar ôl i’w chwarae. Mae Valencia’n eistedd yn ail gyda chwe phwynt, St Gallen yn drydydd ar dri phwynt, a Kuban yn olaf gydag un.
Cawson nhw gêm gyfartal 1-1 yn Stadiwm y Liberty bythefnos yn ôl ar ôl i gyn-ymosodwr Lerpwl a QPR Djibril Cisse unioni’r sgôr i’r ymwelwyr gyda chic o’r smotyn hwyr.
Canlyniad i’r cefnogwyr
Mae Vorm yn gobeithio y gall buddugoliaeth heno wneud yn iawn i’r cefnogwyr am ganlyniad y penwythnos – pan gafodd ef gerdyn coch yn y munudau olaf am lorio ymosodwr Caerdydd Frazier Campbell.
“Mae’r gêm yma’n bwysig iawn achos ein bod ni’n agos i ennill y grŵp,” meddai Vorm ar wefan y clwb.
“Mae’n dda i ffocysu ar gemau pwysig fel hon, mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud yn iawn am y gêm ddiwethaf.
“Roedd ‘na gamgymeriadau bach yn y gêm ddiwethaf allwn ni ddysgu ohonyn nhw. Mae’n drip hir, ond rydyn ni yma i ennill ar gyfer y cefnogwyr.”
Bron yno
Mae gan Abertawe gêm gartref yn erbyn Valencia i ddilyn cyn iddyn nhw herio St Gallen yn y Swisdir yng ngêm olaf y grŵp.
Mae rheolwr Abertawe Michael Laudrup hefyd yn credu y bydden nhw o fewn cyrraedd y rownd nesaf gyda buddugoliaeth heno.
“Fe fyddwn ni bron yno gyda buddugoliaeth,” meddai Laudrup. “Ond mae dal yn dibynnu ar y gemau eraill. ‘Ry ni gyd yn gwybod beth ddigwyddodd yn y gêm gyntaf yn erbyn Kuban ac mae’n rhaid i ni wneud yn well tro ‘ma.”
Bydd penderfyniad gan Laudrup i’w wneud pan ddaw at y safle cefnwr chwith, gyda’r ddau Gymro Neil Taylor a Ben Davies nawr yn holliach o anafiadau a’r ddau wedi teithio allan i Rwsia gyda’r garfan.