Conor Washington
Casnewydd 3 – 1 Southend
Mae Casnewydd wedi codi i’r seithfed safle yn Adran 2 wedi buddugoliaeth gyfforddus yn erbyn Southend.
Sgoriodd Conor Washington i’r tîm cartref wedi 23 munud cyn i Ben Coker ddod â’r sgôr yn gyfartal ychydig cyn yr hanner.
Aeth Casnewydd yn ôl ar y blaen yn eiliadau olaf yr hanner cyntaf diolch i beniad gan yr amddiffynwr Andrew Hughes, cyn i Ismail Yakubu sgorio â’i ben yntau yn fuan yn yr ail hanner i selio’r fuddugoliaeth i ddynion Justin Edinburgh.
“Dyna’n buddugoliaeth gorau ni” meddai Edinburgh wedi’r gêm.
“Roedden ni’n ardderchog o’r dechrau i’r diwedd ac heb os yn llawn haeddu’r tri phwynt yn erbyn tîm da iawn.”