Bae Colwyn 1 – 3 Tref Corby
Methodd Bae Colwyn a chyrraedd rownd gyntaf Cwpan FA Cymru, wrth iddynt golli o 3-1 yn erbyn Corby.
Sgoriodd Stuart Hendrie i’r ymwelwyr wedi 22 munud, ac er i Rob Hopley ddod a’r sgôr yn gyfartal wedi 77 munud ychwanegodd Nathan Rooney a Sam Ives goliau yn y deg munud olaf i sicrhau’r fuddugoliaeth i Corby.