David Marshall - seren Caerdydd heddiw
Norwich 0 – 0 Caerdydd

Di-sgôr oedd y gêm Uwch Gynghrair Lloegr rhwng Norwith a Chaerdydd heddiw, er fod digon i’w drafod ar y chwiban olaf.

Pwnc llosg mawr y gêm oedd penderfyniad y dyfarnwr, Michael Jones, i beidio caniatau gôl i Norwich ar ôl i Leroy Fer rwydo i’r tîm cartref.

Daeth y gôl yn syth o dafliad i Norwich wedi i Gaerdydd gicio’r bêl allan oherwydd bod un o chwaraewyr eu gwrthwynebwyr wedi’i anafu.

Fel arfer bydd dan yr amgylchiadau, byddai disgwyl i dîm roi’r bêl yn ôl i’r gwrthwynebwyr ond ciciodd Fer y bêl i mewn i rwyd wag Caerdydd, er bod amheuaeth ynglŷn ag oedd hynny’n bwrpasol neu beidio.

Golwr Caerdydd, David Marshall, oedd yr arwr i’r tîm Cymreig gyda chyfres o arbediadau gwych i gadw ei dîm yn y gêm.