Wrth i Gymru baratoi i herio Macedonia yng Nghaerdydd nos yfory, mae Golwg360 wedi bod yn trafod rhai o brif straeon yr wythnos ym myd y bêl gron.

Wythnos yma Owain Schiavone, Rhys Jones a Iolo Cheung sydd yn sgwrsio ar y Pod Pêl-droed newydd yn edrych ymlaen i’r gemau rhyngwladol.

Rhai o’r pynciau sydd dan sylw yw anafiadau carfan Cymru, helynt James Collins, ymddeoliad Bellamy, a cip ar rai o’r enwau anghyfarwydd fel Harry Wilson.

Mae’r tri gŵr doeth (!) hefyd yn cynnig eu hawgrym nhw dros bwy ddylai ddechrau i Gymru yn erbyn Macedonia.

Ac fe fyddwn ni hefyd yn cyflwyno eitem newydd Golwg360, ‘Tîm yr Wythnos’, sydd y cychwyn penwythnos hwn gyda chlwb rygbi Pontypridd.

Tra roedd y pod yn cael ei recordio, fe gadarnhawyd y bydd Aaron Ramsey’n ffit ac yn gapten ar y tîm nos yfory, tra bod Sam Vokes yn dal i ddioddef o anaf.