Aaron Ramsey
Mae’r Cymro Aaron Ramsey wedi ennill gwobr Chwaraewr y Mis Uwch Gynghrair Barclays am y tro cynaf erioed.
Cipiodd y wobr am ei berfformiadau disglair ym mis Medi, gan gynnwys sgorio pedair gôl mewn pedair gêm i Arsenal.
Llwyddodd i rwydo ddwywaith yn erbyn Sunderland, yn ogystal â gôl yr un yn erbyn Abertawe a Stoke.
Ef yw’r trydydd Cymro yn unig i ennill y wobr, yn dilyn Gareth Bale (3) a Ryan Giggs (2).
Roedd mwy o newyddion da i’w glwb hefyd wrth i reolwr Arsenal, Arsene Wenger, gipio’r wobr am Reolwr y Mis, wrth i’r Gunners ennill bob un o’i pedair gêm.
Mae Ramsey bellach gyda charfan Cymru wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol olaf ymgyrch Cwpan y Byd, yn erbyn Macedonia a Gwlad Belg.