Gareth Bale
Fe ychwanegodd Gareth Bale fwy o dlysau i’w gabinet o wobrau personol neithiwr wrth gipio dwy o’r prif wobrau yn seremoni wobrwyo flynyddol Cymdeithas Bêl-droed Cymru neithiwr.

Enillodd seren Real Madrid, a chwaraewr drytaf y byd, wobr Chwaraewr y Flwyddyn am y trydydd gwaith mewn pedair blynedd.

Llwyddodd hefyd i gipio’r wobr am Chwaraewr y Flwyddyn y Cefnogwyr hefyd, yn y seremoni gafodd ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.

Doedd Bale ddim yno i gasglu’r wobr, gan ei fod dal ym Madrid yn gwella o anaf, ond fe’u cyflwynwyd i reolwr Cymru Chris Coleman ar ei ran.

Mae’n coroni blwyddyn ddisglair tu hwnt i Bale, wrth iddo symud o Tottenham i Real Madrid am swm record byd o £85miliwn dros yr haf.

Gwelwyd perfformiadau gwych ganddo yng nghrys Cymru unwaith eto hefyd y tymor diwethaf, gan gynnwys goliau gwych ym muddugoliaethau Cymru dros yr Alban ac Awstria.

Dim ond tri chwaraewr arall sydd wedi llwyddo i gipio gwobr Chwaraewr y Flwyddyn dair gwaith cyn Bale – Dean Saunders, Mark Hughes a John Hartson.

Llwyddodd Bale i gipio’r wobr yn ôl oddi wrth Joe Allen, oedd wedi’i drechu’r llynedd.

Cydnabyddiaeth i Williams

Enillodd Ashley Williams, capten Cymru ac Abertawe, wobr y noson am Chwaraewr Clwb y Flwyddyn, ar ôl iddo arwain yr Elyrch i’w safle uchaf erioed yn yr Uwch Gynghrair ac ennill Cwpan Carling tymor diwethaf.

Mae bellach wedi ennill y wobr honno bedair gwaith yn y pum mlynedd diwethaf.

Roedd cefnwr Abertawe Ben Davies hefyd yn fuddugol, yng nghategori Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn, ar ôl tymor addawol a welodd ef yn torri mewn i dîm Abertawe am y tro cyntaf.

Cafodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn yr Alban y llynedd a bellach mae wedi chwarae saith gwaith dros ei wlad.

Aeth Chwaraewraig y Flwyddyn i Jess Fishlock, sydd bellach yn chwarae i Seattle Reign

Cipiodd Angharad James o Academi Bryste wobr Chwaraewraig Ifanc y Flwyddyn, gyda Lauren Price o Gaerdydd yn ennill Chwaraewraig Clwb y Flwyddyn.

Aeth gwobr Person Clwb Uwch Gynghrair Cymru’r Flwyddyn i Leigh DeVulgt, amddiffynnwr Port Talbot, sydd wedi bod gyda’r clwb ers 2004 ac wedi bod yn rhan o’r tîm lwyddodd i gyrraedd cwpan Ewropa y flwyddyn hon.

Gwobrau Arbennig

Roedd gan y Gymdeithas Bêl-droed hefyd wobr arbennig ar gyfer Peter Nicholas, a enillodd 73 o gapiau dros Gymru rhwng 1979 ac 1991.

Fe anrhydeddwyd Bryn Powell hefyd gyda gwobr am ei wasanaeth i’r gêm amatur yng Nghymru.