Chris Coleman
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau na fydd Sam Ricketts na Jack Collison yn rhan o garfan Cymru i herio Macedonia a Gwlad Belg.

Mae’r ddau wedi tynnu yn ôl gydag anafiadau, gan ychwanegu’i henwau at restr faith o sêr Cymru fydd ddim ar gael ar gyfer y ddwy gêm ragbrofol.

Mae Gareth Bale, Joe Allen, Joe Ledley, Ben Davies, Adam Matthews a Danny Gabbidon eisoes allan o’r garfan oherwydd anafiadau, gydag Andrew Crofts wedi’i wahardd a chwestiynau ynglŷn â ffitrwydd Ashley Williams yn parhau.

Yr unig newyddion da yw ei bod hi’n ymddangos nad yw Aaron Ramsey’n dioddef unrhyw sgil-effeithiau ar ôl iddo gael ei eilyddio i Arsenal dros y penwythnos gydag anaf.

Yn eu lle yn y garfan mae David Cotterill, Rhoys Wiggins, James Wilson, Daniel Alfei, Jazz Richards, Lloyd Isgrove, Owain Tudur Jones, Shaun MacDonald a Jermaine Easter.

Hon yw’r tro cyntaf i chwaraewr ganol cae Southampton Isgrove gael ei enwi yn y garfan, tra bod nifer o’r lleill megis Cotterill, Tudur Jones a MacDonald heb fod yn y garfan ers nifer o flynyddoedd.

Mae rheolwr Cymru Chris Coleman eisoes o dan bwysau i gael canlyniadau da gyda’r Gymdeithas Bêl-droed eto i gynnig cytundeb newydd iddo, ag yntau wedi awgrymu y byddai’n ystyried ei ddyfodol hyd yn oed petai’n cael cynnig un.

Y garfan ddiweddaraf:

Wayne Hennessey (Wolves), Boaz Myhill (WBA), Owain Fôn Williams (Tranmere)

Chris Gunter (Reading), Neil Taylor (Abertawe), Ashley Williams (Abertawe), Declan John (Caerdydd), Rhoys Wiggins (Charlton Athletic), James Wilson (Bristol City), Daniel Alfei (Abertawe)

Andy King (Caerlŷr), Aaron Ramsey (Arsenal), David Vaughan (Sunderland), David Cotterill (Doncaster), Owain Tudur Jones (Hibernian), Shaun MacDonald (Bournemouth), Ashley Richards (Huddersfield, ar fenthyg o Abertawe), Lloyd Isgrove (Southampton)

Craig Bellamy (Caerdydd), Simon Church (Charlton Athletic), Hal Robson-Kanu (Reading), Sam Vokes (Burnley), Jermaine Easter (Crystal Palace)