Wrecsam 2–3 Braintree

Collodd Wrecsam am y trydydd tro mewn wythnos yn Uwch Gynghrair Skrill wrth i Braintree ymweld â’r Cae Ras nos Fawrth.

Llwyddodd y Dreigiau i golli er mai chwaraewyr mewn coch sgoriodd bedair o bum gôl y gêm. Er i Johnny Hunt a Jay Harris sgorio i Wrecsam yn y pen iawn fe rwydodd Mark Carrington a Steve Tomassen i’w rhwyd eu hunain ar noson i’w anghofio i dîm Andy Morrell.

Dechreuodd noson siomedig y Dreigiau wedi dim ond dau funud pan roddodd Carrington y bêl yn ei rwyd ei hun, ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf pan ychwanegodd Dean Wells ail gôl yr ymwelwyr.

Ond tarodd y Dreigiau yn ôl cyn yr egwyl gyda dwy gôl mewn pum munud. Sgoriodd Hunt i ddechrau yn dilyn gwaith creu Brett Ormerod cyn i Theo Bailey-Jones greu’r ail i Harris ychydig funudau’n ddiweddarach.

Dwy yr un ar yr egwyl ac felly yr arhosodd hi tan hanner ffordd trwy’r ail hanner pan rwydodd un o amddiffynnwyr Wrecsam i’w rwyd ei hun eto. Tomassen oedd y gŵr anffodus y tro hwn a methodd y tîm cartref a tharo’n ôl yr eildro.

Mae Wrecsam yn llithro i’r deunawfed safle o ganlyniad i’r golled.

.

Wrecsam

Tîm: Mayebi, Ashton, Tomassen (Morrell 90′), Artell, Clarke, Harris, Hunt, Theo Bailey-Jones (Cieslewicz 66′), Carrington, Bishop, Ormerod (Ogleby 83′)

Goliau: Hunt 29’, Harris 34’

Cardiau Melyn: Theo Bailey-Jones 45’, Ashton 72’, Clarke 72’, Harris 90’, Mayebi 90’

.

Braintree

Tîm: McDonald, Habergham, Paine, Massey, Wells, Isaac, Davis, Mulley (Sparkes 79′), Peters, Strutton (Marum 54′), Marks (Cox 88′)

Goliau: Carrington [g.e.h.] 3’, Wells 21’, Tomassen [g.e.h.] 70’

Cardiau Melyn: Strutton 40’, Marks 87’, Cox 90’

.

Torf: 2,731