West Ham 3–2 Caerdydd
Mae Caerdydd allan o Gwpan y Gynghrair ar ôl colli mewn gêm gyffrous yn Upton Park nos Fawrth.
Dechreuodd West Ham ar dân gan sgorio ddwywaith yn yr wyth munud cyntaf ond fe darodd Caerdydd yn ôl gyda goliau Craig Noone a Peter Odemwingie. Yna, gydag amser ychwanegol yn agosáu fe rwydodd Ricardo Vaz Te i ennill y gêm i’r tîm cartref a gyrru’r Adar Gleision adref yn waglaw.
Munud union oedd ar y cloc pan wyrodd Ravel Morrison groesiad Matthew Jarvis i gefn rhwyd Caerdydd i agor y sgorio ac roedd hi’n ddwy ar ôl llai na deg munud wedi i Jarvis ei hun ychwanegu ail West Ham.
Fe frwydrodd y Cymry yn ôl serch hynny ac fe hanerodd Noone y fantais ym munud olaf yr hanner cyntaf pan grymanodd y bêl heibio i Adrián yn y gôl i West Ham o ochr y cwrt cosbi.
Ac roedd yr ymwelwyr yn gyfartal chwarter awr o ddiwedd y naw deg pan sgoriodd Odimwingie ei gôl gyntaf dros ei glwb newydd. A byddai’r gôl honno wedi gorfodi amser ychwanegol oni bai am ymdrech hwyr Vaz Te.
Daeth y Cymro, Jack Collison, o hyd i’r gŵr o Bortiwgal yn y cwrt a pheniodd yntau heibio i Joe Lewis yn y gôl i ennill y gêm i’r tîm cartref.
Caerdydd allan o’r cwpan yn gynnar felly ond aros yn yr Uwch Gynghrair fydd blaenoriaeth Malky Mackay a’i dîm y tymor hwn pryn bynnag.
.
West Ham
Tîm: Adrian, McCartney (Rat 82′), Tomkins, Collins, Chambers, Jarvis, Taylor, Morrison (Diame 58′), Collison, Maiga (Petric 46′), Vaz Te
Goliau: Morrison 1’, Jarvis 8’, Vaz Te 88’
.
Caerdydd
Tîm: Lewis, Connolly, Hudson, Brayford (McNaughton 46′), John, Odemwingie, Noone, Mutch, Cowie, Mason (Smith 56′), Maynard
Goliau: Noone 45’, Odemwingie 76’
.
Torf: 18,611