Llanast llwyr oedd perfformiad Tom Naylor dros Gasnewydd yn y gêm yn erbyn Morecambe y prynhawn yma.

Llwyddodd i sgorio dwy gôl yn erbyn ei dîm ei hun ac achosi cic gosb arall, gan roi buddugoliaeth 3-2 ar blât i’r ymwelwyr.

Dechreuodd Casnewydd ar y blaen gyda gôl gan Billy Jones, cyn i Naylor benio’r bêl i’w rwyd ei hun. Aeth y tîm cartref ar y blaen eto wedyn gydag ergyd galed gan Robbie Willimott – ond peniodd Naylor y bêl i’r rhwyd anghywir i unioni’r sgôr i’r gwrthwynebwyr.

I goroni’r cyfan, fe droseddodd yn erbyn Kevin Ellison ddeng munud cyn diwedd y gêm gan roi cic gosb i Padraig Amond allu sicrhau buddugoliaeth i Morecambe.