Caerdydd 3–2 Man City

Roedd gêm gartref gyntaf Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair yn un gofiadwy wrth iddynt guro Man City yn Stadiwm y Ddinas brynhawn Sul, a hynny wedi bod ar ei hôl hi o gôl i ddim.

Rhoddodd Edin Dzeko yr ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn yr ail hanner ond fe darodd y Cymry yn ôl gyda gôl gan Aron Gunnarsson a dwy gan Fraizer Campbell. Ac er i gôl Alvaro Negredo achosi diweddglo dramatig fe ddaliodd Caerdydd eu gafael i sicrhau buddugoliaeth wych.

Yn dilyn hanner cyntaf di sgôr, fe roddodd Dzeko Man City ar y blaen gydag ergyd gadarn saith munud wedi’r egwyl.

Ond roedd Caerdydd yn gyfartal ar yr awr diolch i gôl Gunnarsson. Methodd Joe Hart a dal ergyd Campbell a manteisiodd y gŵr o Wlad yr Iâ ar y llanast i sgorio gôl gyntaf Caerdydd yn yr Uwch Gynghrair.

Rhoddodd hynny selogion Stadiwm y Ddinas mewn hwyliau da ond roedd y lle yn fyddarol erbyn diwedd y naw deg munud wedi i Campbell sgorio ddwywaith i’w rhoi ar y blaen. Peniodd groesiad Peter Wittingham i gefn y rhwyd ddeuddeg munud o’r diwedd cyn gwnued yr un peth eto wyth munud yn ddiweddarach o groesiad Don Cowie.

Cafwyd wyth munud hir iawn o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wedi i Negredo dynnu un yn ôl i Man City, ond fe ddaliodd yr Adar Gleision eu gafael i sicrhau tri phwynt cofiadwy.

.

Caerdydd

Tîm: Marshall, Connolly, Taylor, Caulker, Turner, Whittingham, Medel, Kim Bo-Kyung (Mutch 90’), Gunnarsson, Bellamy (Cowie 83′), Campbell (Cornelius  90′)

Goliau: Gunnarson 60’, Campbell 79’, 87’

.

Man City

Tîm: Hart, Zabaleta, Lescott, Garcia, Clichy, Navas (Nasri 55′), Silva, Fernandinho (Milner 77′), Toure, Dzeko (Negredo 69′), Aguero

Goliau: Dzeko 52’, Negredo 90’

.

Torf: 27,068