Mae Abertawe wedi arwyddo ymosodwr Vitesse Arnhem, Wilfried Bony am £12 miliwn, sy’n record i’r clwb.

Gallai’r swm godi i £13.5 miliwn yn y dyfodol yn ddibynnol ar ymddangosiadau a ffactorau eraill.

Mae Bony bellach yn aros am drwydded waith, wedi iddo basio prawf meddygol yn yr Iseldiroedd, lle mae Abertawe ar daith cyn i’r tymor ddechrau.

Mae’r trosglwyddiad hwn yn curo’r record blaenorol o £5.5 miliwn a gafodd ei dalu am Pablo Hernandez pan symudodd o Valencia y llynedd.

Roedd rheolwr yr Elyrch, Michael Laudrup wedi bod yn chwilio am bartner i Michu yn y rheng flaen er mwyn sgorio rhagor o goliau i adeiladu ar eu llwyddiant y tymor diwethaf.

Byddan nhw’n cystadlu yn Ewrop y tymor hwn yn dilyn eu buddugoliaeth yng Nghwpan Capital One y tymor diwethaf.

Dywedodd Bony: “Mae’r trosglwyddiad hwn wedi cael ei grybwyll ers cryn amser, felly rwy wrth fy modd ei fod wedi’i gwblhau.

“Nawr, mae’n bwysig fy mod i’n canolbwyntio ar yr her o’n blaenau gan fy mod i’n gobeithio gwneud cefnogwyr Abertawe’n hapus iawn.”

Bony oedd prif sgoriwr yr Eredivisie, Uwch Gynghrair yr Iseldiroedd y tymor diwethaf, wrth iddo sgorio 31 gôl mewn 30 gêm, a chafodd ei enwi’n Chwaraewr Gorau’r Flwyddyn.

Fe fydd Vitesse Arnhem hefyd yn cystadlu yng Nghynghrair Europa, wedi iddyn nhw orffen yn bedwerydd yn yr Eredivisie.

Ychwanegodd Bony: “Cynghrair Europa yw fy mhrif ffocws.

“Rwy’n mwynhau chwarae yn Ewrop, ac yn gyfarwydd ag e.”

Mae e hefyd wedi chwarae yng ngwlad ei febyd, yr Arfordir Ifori a’r Weriniaeth Tsiec.

Mae e wedi cynrychioli’i wlad 20 o weithiau, gan sgorio wyth gôl.