Watford 0–0 Caerdydd
Mae Caerdydd gam yn nes at yr Uwch Gynghrair yn dilyn gêm gyfartal ddi sgôr yn erbyn un o’u prif elynion ar frig y Bencampwriaeth, Watford, ar Vicarage Road nos Sadwrn.
Mae’r canlyniad yn cadw’r Adar Gleision wyth pwynt yn glir o Watford yn y trydydd safle gyda dim ond llond llaw o gemau i fynd.
Roedd hi’n amlwg pam fod y ddau glwb tua brig y tabl o’r dechrau’n deg gyda’r ddau dîm yn gyfforddus iawn ar y bêl, ond ychydig o gyfleoedd da a grëwyd serch hynny.
Daeth y gorau heb os i’r ymosodwr cartref, Troy Deeney, ddeg munud wedi’r egwyl ond gwnaeth David Marshall yn y gôl i Gaerdydd arbediad gwych i atal ei beniad.
Tafliadau hir Aron Gunnarsson oedd prif fygythiad Caerdydd a deilliodd hanner cyfleoedd i Ben Turner a Kim Bo-Kyung o’r rheiny ond heibio’r postyn aeth ymdrechion y ddau.
Yn y pen arall roedd eilydd Watford, Fernando Forestieri, yn edrych yn fywiog iawn a daeth yntau’n agos i’r tîm cartref gydag ergyd gadarn o ochr y cwrt cosbi.
Ond roedd gêm gyfartal yn ganlyniad teg a chanlyniad fydd yn bodloni Malky Mackay yn fwy na Gianfranco Zola mae’n debyg. Mae angen saith pwynt ar Gaerdydd o’u chwe gêm olaf yn awr i sicrhau dyrchafiad.
.
Watford
Tîm: Almunia, Doyley, Briggs, Cassetti, Chalobah, Ekstrand, Anya, Abdi, Battocchio (Hogg 51′), Deeney, Vydra (Forestieri 60′)
Cerdyn Melyn: Cassetti 76′
.
Caerdydd
Tîm: Marshall, Taylor, Turner, Connolly (McNaughton 10′), Barnett, Conway (Smith 69′), Kim Bo-Kyung, Gunnarsson, Mutch, Mason (Gestede 56′), Bellamy
Melyn: Gunnarsson 68′, Mutch 85′
.
Torf: 15,550