Mae un o sgorwyr Abertawe yn Wembley ddoe wedi ymbil ar y rheolwr i beidio symud i glwb arall.
Dywedodd Michu ei fod am weld Michael Laudrup yn arwain yr Elyrch yn yr Europa y flwyddyn nesaf.
“Mae’r giaffar wedi gwneud yn wych ar ei dymor cyntaf,” meddai’r ymosodwr o Sbaen.
“Es i lan ato a dywedais i ‘arosa gyda ni nawr ein bod ni’n Ewrop.’
“Dwi’n gwybod y bydd eraill ar ei ôl e. Gall e fynd i glwb arall, ond dwi’n gobithio gwnaiff e aros yma,” meddai Michu, a sgoriodd ail gôl Abertawe yn y fuddugoliaeth o 5-0 dros Bradford.
“Ry’n ni’n tyfu fel clwb ac mae wastad yn anodd i glwb o’n maint ni ennill cwpan.
“Ond nawr ein bod ni yn Ewrop gallwn ni ddenu chwaraewyr da iawn a bod yn gryfach eto y tymor nesaf.”