Woking 1–3 Casnewydd

Mae Casnewydd bellach o fewn dau bwynt i frig tabl Uwch Gynghrair y Blue Square ar ôl curo Woking yn Stadiwm Kingfield brynhawn Sadwrn.

Manteisiodd tîm Justin Edinburgh ar y ffaith nad oedd y tri thîm uwch eu pennau yn chwarae yn y gynghrair heddiw gan gau’r bwlch i ddau bwynt gyda goliau Lee Minshull (dwy) a Byron Anthony.

Agorodd Minshull y sgorio wedi deunaw munud pan beniodd groesiad Andy Sandell i gefn y rhwyd. A dyblodd y fantais ddeg munud cyn yr egwyl pan ymatebodd yn gynt na neb wedi i ergyd Anthony daro’r postyn.

Anthony ei hun sicrhaodd y tri phwynt gyda’r drydedd gôl cyn yr egwyl. Daeth Scott Donnelly o hyd iddo ar ochr y cwrt cosbi ar ergydiodd yntau’n gywir i’r gornel isaf.

Roedd Casnewydd wedi gwneud digon i ennill y gêm yn yr hanner cyntaf a doedd dim mwy o goliau i ddilyn i’r Cymry yn yr ail gyfnod.

Ond doedd dim llechen lân i’r amddiffyn chwaith gan i Gavin McCallum rwydo gôl gysur hwyr i’r tîm cartref.

Mae Casnewydd yn aros yn bedwerydd yn y tabl er gwaethaf y fuddugoliaeth ond dim ond dau bwynt sydd bellach rhyngddynt a Grimsby ar y brig.

.

Woking

Tîm: Putnins, Newton, McNerney, Parkinson, Johnson, Nutter, Ricketts, Bets, Sawyer (Stockley 52’), Knott (McCallum 15’), Bubb (Williams 52’)

Gôl: McCallum 90’

Cerdyn Melyn: Stockley 65’

.

Casnewydd

Tîm: Pidgeley, James, Yakubu, Anthony, Pipe, Minshull, Sandell, Flynn, Jolley (Willmott 83’), Donnelly (Thomson 60’), Crow

Goliau: Minshull 19’, 34’, Anthony 37’

Cerdyn Melyn: Jolley 69’

.

Torf: 2,116