Alastair Cook
Mae gêm gyfartal yn Nagpur heddiw wedi sicrhau fod Lloegr yn cipio cyfres yn India am y tro cyntaf ers 1985.

Roedd 143 gan Jonathan Trott ac 116 heb-fod-allan gan Ian Bell yn ddigon i gadw India allan am gêm gyfartal.

Mae Lloegr wedi ennill y gyfres 2-1, a dywedodd y capten Alastair Cook ei fod wedi bod yn “ddiwrnod arbennig iawn.”

“Roedd e’n ymdrech wych gan Trotty a Belly,” meddai.

“Digon teg, roedd y llain yn fflat, ond fe fation nhw yn arbennig.”

Dim ond baban oedd Cook pan enillodd Lloegr gyfres yn India y tro diwethaf, dan gapteniaeth David Gower yn 1985.

Nid oedd llawer wedi rhagweld buddugoliaeth y tro yma ar ôl i Loegr gael crasfa yn y prawf cyntaf yn Ahmedabad, ond llwyddon nhw i ennill y ddau brawf dilynol ac mae Alastair Cook wedi gosod esiampl gyda thair canrif yn ei dri phrawf cyntaf ers dod yn gapten.