Mae’r bowliwr cyflym James Harris wedi ymuno â Middlesex, gydag adroddiadau’n awgrymu ei fod e wedi llofnodi cytundeb tair blynedd.

Roedd Swydd Nottingham ymhlith nifer o siroedd a oedd wedi ceisio llofnodi’r bowliwr pan gyhoeddodd nad oedd yn bwriadu aros yng Nghymru.

Roedd ganddo gymal yn ei gytundeb gyda Morgannwg a oedd yn ei alluogi i symud i unrhyw dîm yn yr Adran Gyntaf.

Dywedodd fod angen iddo adael Morgannwg er mwyn cryfhau ei siawns o gynrychioli Lloegr.

Chwaraeodd ei gêm gyntaf yn 16 oed yn 2007, a fe yw’r bowliwr ieuengaf i gipio 100 a 200 o wicedi i’r sir.

Cafodd ei ddewis yr wythnos diwethaf i deithio i India yn ystod y gaeaf ar gyfer Rhaglen Berfformio Lloegr.

Methodd â chwarae am rannau helaeth o’r tymor diwethaf oherwydd anaf.

Dywedodd James Harris ar ei dudalen Twitter: “Hapus iawn i gyhoeddi fy mod i wedi llofnodi cytundeb gyda Chlwb Criced Middlesex.”