Aberystwyth 0–2 Llanelli

Llanelli oedd yn fuddugol yn y frwydr tua’r gwaelodion yn erbyn Aberystwyth ar Goedlan y Parc nos Wener.

Nid yw Llanelli wedi cael dechrau da i’r tymor ac roedd pethau’n edrych yn wael arnynt yn y gêm hon hefyd pan anfonwyd Mamadou Diallo oddi ar y cae wedi dim ond hanner awr.

Ond hwy aeth ar y blaen bum munud cyn yr egwyl serch hynny pan fanteisiodd Martin Rose ar amddiffyn gwan i agor y sgorio.

Pwysodd Aber trwy gydol yr ail hanner a daeth Glyndwr Hughes yn agos gyda pheniad ond yr ymwelwyr a gafodd yr ail gôl bedwar munud o’r diwedd wrth i Rose rwydo’i ail yn dilyn gwrthymosodiad chwim.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Cochion dri lle i’r seithfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair tra mae Aberystwyth yn disgyn i waelod y tabl.

(Torf – 352)

Gap Cei Connah 6–4 Lido Afan

Cafwyd gwledd o goliau yng ngêm y penwythnos yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy brynhawn Sadwrn wrth i’r tîm cartref drechu Lido Afan o 6-4.

Peniodd Jamie Petrie’r tîm cartref ar y blaen wedi dim ond pum munud cyn i Luke Borrelli daro’n ôl i Lido gydag ergyd i’r gornel uchaf. Adferodd Dean Canning fantais Cei Connah ond roedd Lido’n gyfartal eto cyn yr egwyl diolch i ergyd dda Mark Jones.

Ond sicrhaodd y tîm cartref y fuddugoliaeth gyda thair gôl mewn deg munud ar ddechrau’r ail hanner. Rhwydodd Canning ei ail i ddechrau cyn i Gary O’Toole ychwanegu dwy arall i’w gwneud hi’n bump.

Cwblhaodd Rhys Healey y sgorio i Gap gyda foli hwyr cyn i Borrelli a Jones ill dau sgorio eto i Lido i roi gwedd fwy parchus ar y sgôr.

Aros yn bedwerydd y mae Cei Connah er gwaethaf y fuddugoliaeth ond maent yn cau’r bwlch ar Fangor yn y trydydd safle i un pwynt. Mae Lido ar y llaw arall yn disgyn un lle i’r degfed safle.

(Torf – 124)

Y Drenewydd 1–7 Airbus

Cafwyd llond trol o goliau ym Mharc Latham brynhawn Sadwrn hefyd wrth i’r ymwelwyr o Frychdyn roi cweir i’r Drenewydd.

Hon oedd buddugoliaeth fwyaf erioed Airbus yn yr Uwch Gynghrair ac roeddynt bedair gôl ar y blaen erbyn hanner amser diolch i goliau Steve Abbott, Chris Budrys, Ian Kearney a Steve Tomassen.

Tarodd y Drenewydd yn ôl wedi’r egwyl gyda gôl i Craig Whitfield yn erbyn ei gyn glwb ond chafodd hynny fawr o effaith ar y gêm wrth i’r ymwelwyr ychwanegu tair arall cyn y chwiban olaf.

Rhwydodd Budrys ei ail i ddechrau cyn i Abbott sgorio ei ail yntau o’r gêm hanner ffordd trwy’r hanner. A chwblhaodd Abbott ei hatric yn yr eiliadau olaf i gwblhau perfformiad oddi cartref arbennig.

Mae’r fuddugoliaeth wych yn codi Airbus i’r hanner uchaf ac  i’r pumed safle tra mae’r Drenewydd yn disgyn i’r wythfed safle.

(Torf – 178)

Prestatyn 1–1 Port Talbot

Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi i Brestatyn a Phort Talbot ar Erddi Bastion brynhawn Sadwrn.

Rhoddodd Jason Price y tîm cartref ar y blaen yn gynnar gyda’i chweched gôl o’r tymor yn dilyn amddiffyn gwan gan Bort Talbot. A chafodd Prestatyn sawl cyfle i ychwanegu at y fantais honno cyn yr egwyl ond methodd Ross Stephens a Gareth Wilson gyfleoedd da.

Mae David Brooks wedi bod ar dân i Bort Talbot yn ddiweddar a doedd fawr o syndod mai ef wnaeth unioni’r sgôr gyda chic rydd yn gynnar yn yr ail hanner.

Methodd Mike Parker gyfle i adfer mantais Prestatyn o’r smotyn wedi hynny a bu rhaid i’r tîm cartref orffen y gêm gyda deg dyn hefyd yn dilyn cerdyn coch i Greg Stones.

Nid yw’r canlyniad yn newid llawer yn y tabl gyda Phrestatyn yn aros yn ail a Phort Talbot yn chweched.

(Torf – 244)

Bala 3–0 Caerfyrddin

Llwyddodd y Bala i gipio’u tri phwynt cyntaf o’r tymor yn erbyn Caerfyrddin ar Faes Tegid brynhawn Sadwrn.

Roedd y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond deg munud diolch i Lee Hunt â’i ail gôl mewn dwy gêm. A sgoriodd Hunt eto wedi llai na hanner awr i roi mantais gyfforddus i’r Bala.

Hunt ar hatric felly ond Lunt yn hytrach a sgoriodd y drydedd, Kenny Lunt gyda’i gôl gyntaf i’r clwb saith munud cyn yr egwyl.

Mae’r fuddugoliaeth yn codi’r Bala oddi ar waelod y tabl i’r unfed safle ar ddeg tra mae Caerfyrddin yn disgyn i’r nawfed safle.

(Torf – 179)

Y Seintiau Newydd 3–0 Bangor

Buddugoliaeth gyfforddus i’r Seintiau oedd hi ar Neuadd y Parc brynhawn Sadwrn o flaen camerâu Sgorio. Sgoriodd Alex Darlington yn yr hanner cyntaf cyn i Michael Wilde a Chris Seargeant ychwanegu dwy arall wedi’r egwyl.

Cyfnewid safleoedd yn y tabl mae’r ddau dîm yn dilyn y canlyniad gyda’r Seintiau yn codi i’r brig a Bangor yn disgyn i’r trydydd safle.

(Torf – 555)