Fydd dim criced ar unrhyw lefel yng Nghymru tan o leiaf Awst 1, yn ôl Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) mewn datganiad heddiw (dydd Iau, Mai 28).
Daeth cadarnhad ganol mis Ebrill na fyddai’n bosib chwarae unrhyw griced tan o leiaf Orffennaf 1 yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.
Ond mae’r bwrdd sy’n rheoli’r gêm yng Nghymru a Lloegr yn dweud eu bod nhw’n ffyddiog o gynnal rhywfaint o griced cyn diwedd y tymor ym mis Medi, ac fe fydd nifer o opsiynau’n cael eu cyflwyno fis nesaf.
Ymhlith y trafodaethau fis nesaf fydd cynnal gemau domestig ym mhob un o’r caeau sirol a gemau rhyngwladol y tu ôl i ddrysau caëedig neu â thorf fach fydd yn gorfod cadw at reolau ymbellháu cymdeithasol, a ffrydio gemau ar y we os na fydd modd cael torf yn y caeau.
Does dim sicrwydd eto pryd fydd clybiau ar lawr gwlad yn cael chwarae eto, ond fe fydd modd defyddio rhwydi a chaeau at ddibenion ymarfer corff, a bydd yr awdurdodau’n trafod criced i blant â Llywodraeth Prydain maes o law.
Eglurhad
Yn ôl Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, lles chwaraewyr, staff a chefnogwyr yw eu blaenoriaeth.
Wrth geisio cynnal gemau cyn diwedd y tymor hwn, maen nhw’n dweud y byddan nhw’n rhoi’r flaenoriaeth i’r cystadlaethau sy’n fwyaf tebygol o fod yn fuddiol yn ariannol, sef gemau rhyngwladol a gemau ugain pelawd, a hynny’n dilyn gohirio’r gystadleuaeth ddinesig, Can Pelen, tan 2021.
Byddan nhw hefyd yn cydweithio â darlledwyr er mwyn sicrhau bod cynifer o gemau â phosib yn cael eu darlledu os byddan nhw’n cael eu cynnal.
Bydd yr awdurdodau’n gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod modd i ferched chwarae criced y tymor hwn, er mwyn cefnogi twf y gêm ar bob lefel.
Cefndir y tymor hwn
Fe ddylai’r tymor domestig fod wedi dechrau ar Fawrth 24, wrth i’r pencampwyr Essex wynebu’r MCC yn Sri Lanca – gêm gynta’r tymor yn draddodiadol ers nifer o flynyddoedd.
Roedd disgwyl i’r Bencampwriaeth fod wedi dechrau ar Ebrill 12, gyda deg rownd o gemau hyd at Awst 1.
Fe ddylai’r Vitality Blast, y gystadleuaeth ugain pelawd sirol, fod wedi dechrau heddiw, gyda’r holl gemau grŵp yn gorffen cyn diwedd mis Gorffennaf.
Dyddiad cychwyn Cwpan Royal London yw Gorffennaf 19, gyda 41 o gemau i’w cynnal cyn diwedd y mis.
Mae disgwyl i gyfres o gemau 50 pelawd rhwng y siroedd a’r Siroedd Cenedlaethol (y Siroedd Llai gynt) gael eu cynnal rhwng Gorffennaf 15-17.
Ymateb
“Wrth reswm, rydyn ni am weld criced yn cael ei chwarae ar bob lefel,” meddai Tom Harrison, prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.
“Rydym yn obeithiol o hyd o weld criced domestig ac ar lawr gwlad y tymor hwn, ac mae cynllunio gyda Grŵp y Gêm Broffesiynol (PGG) wedi ein galluogi ni i fapio sawl sefyllfa bosib ar gyfer chwarae’n ddomestig.
“Tra mai fformatau traddodiadol ein cystadlaethau sy’n cael eu ffafrio, dydyn ni ddim yn gwrthwynebu archwilio’r anghyffredin er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu dychwelyd ein chwaraewyr i’r cae.
“Dim ond pan fydd hi’n ddiogel y gall hynny ddigwydd, ac rydym wedi dweud drwy gydol yr argyfwng hwn mai diogelwch a lles pawb sydd ynghlwm wrth y gêm yw ein prif flaenoriaeth.
“Rydym wedi dysgu tipyn ac yn parhau i ddysgu am brotocolau diogelwch fyddai angen eu rhoi ar waith er mwyn cynnal criced rhyngwladol y tu ôl i ddrysau caëedig yn yr amgylchfyd hwn, a byddai angen i’r protocolau hynny gael eu rhoi ar waith yn y gêm ddomestig hefyd.
“Ar draws y gêm ar lawr gwlad, fe fu’n galonogol clywed am glybiau lle mae chwaraewyr wedi dychwelyd i’r rhwydi.
“Wrth i blant ddechrau dychwelyd i’r ysgol [yn Lloegr] dros yr wythnosau i ddod, rydym yn edrych ymlaen at archwilio sut y gellir defnyddio’r canllawiau a’r casgliadau hynny ar gyfer criced.
“Gall hyn wedyn weld y gêm ar lawr gwlad yn parhau i ddychwelyd yn raddol cyn gynted ag y bydd gyda ni sêl bendith y Llywodraeth.”