Mae’r Cyngor Criced Rhyngwladol yn ystyried gwahardd y defnydd o boer i gyflyru’r bêl pan fydd gemau’n cael eu cynnal eto.

Mae’n bosib y bydd rhaid i fowlwyr ddibynnu ar chwys a’u hanadl pe bai’n bosib chwarae eto cyn diwedd yr haf.

Mae poer yn cael ei ystyried yn ffordd beryglus o drosglwyddo’r coronafeirws, ond dydy chwys ddim yn peri’r un perygl.

Yn sgil y gwaharddiad posib, mae cwmni Kookaburra, sy’n cynhyrchu peli yn Awstralia, yn datblygu cwyr sy’n gallu helpu i wyro’r bêl – sef prif bwrpas poer.

Daw penderfyniad prif awdurdod criced y byd ar sail cyngor meddygol, a bydd yn rhaid i benaethiaid roi sêl bendith cyn cyflwyno’r gwaharddiad dros dro.

Mae Lloegr yn gobeithio herio India’r Gorllewin a Phacistan cyn diwedd yr haf, ac mae disgwyl i fowlwyr Lloegr ddechrau ymarfer yn unigol eto dros yr wythnosau nesaf.

Ymhlith y mesurau eraill dan ystyriaeth mae diddymu’r gofynion fod rhaid i ddyfarnwyr ddod o wledydd niwtral, a hynny yn sgil y cyfyngiadau teithio sydd yn eu lle o hyd.

Mae gan Loegr bedwar dyfarnwr rhyngwladol, a fyddai’n ei gwneud hi’n haws cynnal gemau.