Bydd siroedd a chlybiau criced Cymru a Lloegr yn derbyn pecyn iawndal gwerth £61m gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) yn sgil y coronafeirws.
Mae posibilrwydd cryf ar hyn o bryd y gallai criced ar bob lefel gael ei ganslo eleni yn sgil y feirws.
Fe fydd cyfanswm o £40m yn cyrraedd cyfrifon banc y 18 sir broffesiynol, gan gynnwys Morgannwg, y byrddau criced sirol a chlwb yr MCC.
Bydd benthyciadau a grantiau heb log gwerth £20m hefyd ar gael.
Yn ôl Tom Harrison, prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, fydd effaith y feirws ar y siroedd proffesiynol a chlybiau amatur ddim yn glir am rai misoedd.
‘Un o’n heriau mwyaf erioed’
Daw’r cyhoeddiad wrth i Hugh Morris, prif weithredwr Morgannwg, rybuddio bod y clwb yn wynebu “un o’n heriau mwyaf erioed”.
Mae’r clwb wedi penderfynu cwtogi cyflogau gweithwyr tan y bydd penderfyniad am gynnal gemau’r tymor hwn.
Ond mae Hugh Morris yn dweud bod “angerdd am griced” a “threftadaeth Gymreig hynod falch” yn uno’r clwb ar adeg “ansicr”.
Mae’n dweud ymhellach fod y penderfyniad i ddirwyn gwaith dydd i ddydd y clwb i ben yn un “anodd”, ond ei fod yn angenrheidiol er lles “sefydlogrwydd y clwb yn y dyfodol”.
“I ni fel clwb, mae’n bryd i ni aros yn unedig,” meddai mewn datganiad.
“Mae ein cwmni wedi’i adeiladu ar werthoedd ‘tîm, parch a hwyl’ a thra bod y rhain bob amser yn werthoedd pwysig i ni, maen nhw’n bwysicach nag erioed bellach.
“Os byddwn ni’n parhau i ymrwymo i’r rhain, does dim amheuaeth gen i y down ni drwy hyn.
“Adeiladwn ar ein cryfderau a’n hymrwymiad i griced, fel y gallwn ni edrych ymlaen at floeddio yng Ngerddi Sophia eto.
“Yn y cyfamser, cadwch yn ddiogel ac arhoswch yn gryf.”