Mae clybiau criced Uwch Gynghrair De Cymru wedi cael gwybod pa rai o chwaraewyr Morgannwg fydd yn ymuno â nhw y tymor hwn.
Mae 24 o chwaraewyr y sir wedi ymuno â deg tîm yn y gynghrair, lle bydd rhai timau’n cael dau chwaraewr proffesiynol ac eraill yn cael tri.
Abertawe yw un o’r timau fydd yn cael tri am eu bod nhw newydd ennill dyrchafiad, tra bydd Rhydaman, Y Mwmbwls a Phen-y-bont ar Ogwr hefyd yn cael tri fel y tri thîm isaf oedd wedi llwyddo i aros yn y gynghrair y tymor diwethaf.
Mae chwech o chwaraewyr proffesiynol newydd yn y gynghrair eleni – Dan Douthwaite, Charlie Hemphrey, Roman Walker, Joe Cooke, Jamie McIlroy a Tom Cullen.
Mae Tom Cullen yn ymuno â Kieran Bull yng Nghastell-nedd, a hynny yn lle Billy Root, sydd wedi symud i Abertawe i ymuno â David Lloyd a Roman Walker.
Mae Charlie Hemphrey yn ymuno â Ruaidhri Smith yn Sain Ffagan, tra bod Joe Cooke yn ymuno â Timm van der Gugten a Graham Wagg yn y Mwmbwls.
Yn ymuno ag Andrew Salter a Marchant de Lange yn Rhydaman mae Jamie McIlroy, tra bod Dan Douthwaite a Chris Cooke yn ymuno â Craig Meschede ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
‘Hanfodol i ddyfodol Morgannwg a chriced yng Nghymru’
Mae Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg, yn credu bod sicrhau lle i chwaraewyr proffesiynol ym mhrif gynghrair griced y de yn hollbwysig i’r sir ac i’r gêm gyfan.
“Rydym yn hapus i helpu i gryfhau’r gynghrair a’r clybiau gyda’n chwaraewyr ni,” meddai.
“Mae e o fantais i bawb – mae ein chwaraewyr ni’n cael chwarae mwy o griced, gall rhai ohonyn nhw gynrychioli’r clybiau oedd wedi eu meithrin a’u datblygu nhw, a gall y chwaraewyr roi rhywbeth yn ôl i’r cymunedau.
“Mae’r gwrthwynebwyr hefyd yn cael wynebu chwaraewyr cryfach ac fe fydd safon y criced ar y cyfan yn parhau i wella. Gall hynny ond fod yn beth da i griced yng Nghymru.”
Pwy sy’n mynd i ble?
Abertawe – Roman Walker, Billy Root, David Lloyd
Caerdydd – Kiran Carlson, Prem Sisodiya
Casnewydd – Callum Taylor, Michael Hogan
Castell-nedd – Kieran Bull, Tom Cullen
Y Mwmbwls – Joe Cooke, Timm van der Gugten, Graham Wagg
Pen-y-bont ar Ogwr – Craig Meschede, Dan Douthwaite, Chris Cooke
Pontarddulais – Owen Morgan, Lukas Carey
Port Talbot – Connor Brown, Nick Selman
Rhydaman – Andrew Salter, Jamie McIlroy, Marchant de Lange
Sain Ffagan – Ruaidhri Smith, Charlie Hemphrey