Mae Billy Root yn dweud ei fod e’n teimlo’n “gartrefol” yng Nghymru ar ôl ymestyn ei gytundeb gyda Chlwb Criced Morgannwg am ddau dymor arall, i’w gadw gyda’r sir tan o leiaf 2022.
Ymunodd y Sais 26 oed â’r sir o Swydd Nottingham cyn dechrau tymor 2019 ac mae e wedi dod yn un o’r batwyr gorau.
Yn ei dymor cyntaf gyda’r sir, roedd e ar frig rhestr eu prif sgorwyr rhediadau mewn gemau 50 pelawd gyda 386 o rediadau, gan gynnwys ei sgôr gorau erioed, 113 heb fod allan yn erbyn Surrey.
Tarodd e ganred dwbwl am y tro cyntaf erioed yn y Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Northampton, gan sgorio cyfanswm o 768 o rediadau yn y gystadleuaeth.
‘Teimlo’n gartrefol yng Nghymru’
“Ro’n i wrth fy modd yn ystod fy nhymor cyntaf gyda Morganwg, a dw i’n teimlo’n gartrefol iawn yn y clwb ac yng Nghymru,” meddai.
“Dw i’n teimlo bod fy ngêm wedi gwella dipyn o gael gweithio gyda Matt [Maynard, y prif hyfforddwr] a gweddill y staff hyfforddi, a dw i wrth fy modd o gael ymestyn fy nghytundeb.
“Fe wnaethon ni gryn welliannau ar y cae y llynedd ac mae gyda ni nifer o chwaraewyr talentog iawn yn y garfan.
“Gobeithio y gallwn ni barhau ar i fyny a gwthio am ddyrchafiad ym Mhencampwriaeth y Siroedd a herio am dlysau ar ffurf y bêl wen.”
‘Chwaraewr allweddol’
“Fe wnaeth Billy greu argraff ar bawb gyda’i berfformiadau ar y cae y llynedd, ac roedd e’n chwaraewr allweddol yn ein timau pêl goch a phêl wen,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.
“Mae e hefyd yn aelod poblogaidd iawn o’r ystafell newid ac yn ddylanwad positif ar y garfan gyda’i frwdfrydedd am y gêm.
“Mae pawb yn y clwb wrth eu boddau fod Billy wedi llofnodi’r estyniad ac wedi ymroi yn y dyfodol i Forgannwg.”