Mae Marnus Labuschagne, batiwr tramor Morgannwg, wedi cael ei enwi’n chwaraewr gorau ei wlad mewn gemau prawf yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Fe gurodd e’r cyn-gapten Steve Smith wrth gipio’r wobr flynyddol ar ôl creu argraff sylweddol ar y byd criced rhyngwladol.
Fe ddechreuodd y cyfan pan gafodd ei enwi’n eilydd batio pan gafodd Steve Smith gyfergyd yn ail brawf cyfres y Lludw.
Roedd ganddo fe gyfartaledd batio o 50.42 yn y gyfres honno, ac fe darodd e dri chanred yn ystod haf Awstralia.
Mae e wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd newydd gyda Morgannwg a fydd yn ei gadw gyda’r sir tan ddiwedd tymor 2021.
Cafodd ei enwi’n Chwaraewr y Flwyddyn gan Forgannwg ar ddiwedd y tymor diwethaf.
Ond mae pryderon y gallai ei berfformiadau i’w wlad olygu na fydd Morgannwg yn gweld rhyw lawer ohono fe.