Dydy gallu siarad Cymraeg “ddim yn effeithio” ar geisiadau i wirfoddoli gyda Chlwb Criced Morgannwg, yn ôl holiadur y clwb.
Ond maen nhw’n dweud eu bod nhw eisiau rhoi “croeso Cymraeg cynnes” i ymwelwyr.
Mae’r clwb yn chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer y tymor criced newydd, ac wedi gosod yr holiadur ar eu gwefan.
“Ein nod yw darparu gwasanaeth cwsmeriaid dosbarth cyntaf a rhaglen groesawu i wylwyr yn ystod ein gemau cartref yn y Vitality Blast a’n gemau rhyngwladol sydd wedi’u cynllunio ar gyfer 2020 a thu hwnt.
“Mae angen gwirfoddolwyr arnom i ymuno â’n tîm cyfeillgar presennol i helpu i sicrhau bod ein gemau a’n prosiectau cymunedol yn rhedeg yn esmwyth.”
Dywed y clwb eu bod nhw’n chwilio am wirfoddolwyr i ymdrin â’r cyfryngau, digwyddiadau a noddwyr, gwasanaethau gwylwyr, cefnogi hyfforddi ieuenctid, Amgueddfa Griced CC4, cefnogaeth weinyddol a phrosiectau cymunedol.
Mae’r holiadur wedyn yn gofyn “ydych chi’n siarad Cymraeg (fydd yr ateb hwn ddim yn effeithio ar ddod yn wirfoddolwr neu beidio ond mae’n ein helpu i roi rôl i chi)?”
‘Croeso Cymraeg cynnes’
Wrth ymateb, dywed y clwb eu bod nhw’n ceisio sicrhau’r defnydd gorau o wirfoddolwyr sy’n gallu siarad Cymraeg.
“Mae hyn oherwydd ein bod ni’n hoffi defnyddio’n gwirfoddowlwyr Cymraeg eu hiaith yn y safleoedd gorau i groesawu cefnogwyr i’r cae a’u cyfarch nhw yn Gymraeg neu yn Saesneg,” meddai llefarydd.
“Mae hyn fel ein bod ni’n rhoi croeso Cymraeg cynnes iddyn nhw, sef yr hyn mae Morgannwg yn adnabyddus am ei wneud.”